172 EFENGYL IOAN. XXI. 24 beth yw hyny i ti? Hwn yw y disgybl sydd yn tyst- iolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifenodd y pethau 25 hyn; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir. Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y cynhwysai y byd y llyfrau a ysgrifenid. Amen. Ac ni ddywedasai (yn fanwl, "Ond ni ddywedodd ") yr Iesu wrtho. Wrth Betr y llefarasai'r Gwaredwr: ond clywsai'r Efengylwr y geir- iau, a chymerodd hwynt fel cyfarchiad iddo ei hun. Gyda'r adnod hon terfyna geiriau'r Efengylwr: ychwanegiad gan arall neu eraill yw'r ddwy adnod olaf. 24. Henaduriaid Effesus, y mae'n debyg, a lefara yn yr adnod hon. Dywedant mai'r disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu yw awdur yr Efengyl, a'u bod hwythau'n gwybod fod ei dystiolaeth ef yn wir. A oedd yr Efengylwr eto'n fyw pan ychwanegwyd yr atodiad hwn at ei Efengyl, ni wyddom: ond dichon yn hawdd ei fod. 25. 25. Yn yr adnod hon llefara rhywun yn y rhif unigol-nid wyf yn tybied. Pwy oedd hwn? Y tebyg yw mai adlais sydd yma o eiriau a lefarasid gan yr Efengylwr ei hun: hawdd yw credu ddywedyd ohono ef rywbeth tebyg i hyn. Gadawer allan y gair "Amen diwedd. yn y Argraffwyd yn Argraffdy'r Cyfundeb, Caernarfon.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/176
Gwedd