Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er mai'r pymthegfed a nodir allan gan yr Efengylwyr Cyfolwg fel dydd y Croeshoeliad, eto dywedant amryw bethau sydd yn fwy cyson a'r pedwerydd ar ddeg. Dywaid Marc (xiv. 1, 2) fod yr archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion wedi penderfynu dal a lladd yr Iesu, ond "nid ar yr wyl, rhag bod cynnwri ymhlith y bobl." Yr oedd dwyn arfau ar y Saboth (ac o ganlyniad ar unrhyw ddydd a ystyrid fel Saboth) yn anghyfreithlon; eto dywaid yr Efengylwyr Cyfolwg fod gweision yr archoffeiriaid, onid hwy eu hunain, yn arfog, neu o leiaf yn canlyn corfflu o filwyr arfog. Dywedant hefyd fod un o'r disgyblion (Ioan yn unig sydd yn dweud mai Petr ydoedd) wedi taro gwas yr archoffeiriad â chleddyf; a dywaid Luc (xxii. 38) fod gan y disgyblion, yn yr oruwchystafell, ddau gleddyf yn eu plith. Anghyfreithlon hefyd oedd cynnal llys barn ar y Saboth; er hynny, yn ôl yr Efengylwyr Cyfolwg, cododd aelodau'r Sanhedrin ar eu hunion o fwyta'r Pasg i gondemnio'r Arglwydd Iesu. Darlunia Marc a Luc Simon o Gyrene fel "yn dyfod o'r wlad": ac er nad yw hynny'n drwyadl anghyson â'r dybiaeth mai Saboth oedd y dydd, naturiolach yw meddwl mai dydd gwaith ydoedd, ac mai dychwelyd o'i waith yr oedd Simon. Dywaid Marc (xv. 46) fod Joseff o Arimathea wedi "prynu" y lliain: rhaid felly ddarfod iddo ei brynu ar ddydd y Croeshoeliad, canys ni wyddai am yr amgylchiad ymlaen llaw. Hwyrach y buasai y gydwybod Iddewig yn cyfreithloni'r weithred hon ar ddydd cysegredig fel gweithred angenrheidiol: ond gweler awgrym Luc (xxiii. 56) am y gwragedd yn paratoi'r peraroglau. Tra y dywaid Marc (xvi. 1) mai wedi darfod y Saboth (sef y dydd y bu corff y Gwaredwr yn y bedd) y prynodd y gwragedd y peraroglau, awgryma Luc, i'r gwrthwyneb, eu bod wedi paratoi'r peraroglau cyn "gorffwys" ohonynt "ar y Saboth" hwnnw, "yn ol y gorchymyn." Os felly, rhaid eu bod hwythau wedi prynu'r peraroglau ar ddydd y Croeshoeliad. Addefir gan bawb mai "Saboth" wythnosol rheolaidd oedd y dydd o flaen yr Atgyfodiad; ac addefir gan bron bawb mai'r diwrnod blaenorol oedd dydd y Croeshoeliad. Ond os oedd y diwrnod hwnnw hefyd yn "Saboth," yr oedd y "gorchymyn " mewn grym am y ddeuddydd yn olynol. Y casgliad naturiol felly yw, nad dydd cysegredig—h.y., nad y pymthegfed— oedd dydd y Croeshoeliad; ac, o ganlyniad, nad y Pasg oedd y Swper Olaf yn yr oruwchystafell y noson flaenorol. Dywaid yr holl. Efengylwyr Cyfolwg mai'r Pasg ydoedd; er hynny y mae yn eu hadroddiadau hwy un peth sydd yn taflu amheuaeth ar y dybiaeth. Rhaid oedd i bob un a gyfranogai o'r Pasg ddwyn ei gwpan ei hun i'r bwrdd; ond, yn ôl yr Efengylwyr Cyfolwg, un cwpan oedd gan y Gwaredwr a'i ddisgyblion rhyngddynt yn y Swper Olaf.

Credwn felly mai'r pedwerydd Efengylwr—ar wahân i bob rhagdybiaeth mai Ioan ydoedd—sydd gywir yn ei ddyddiad; ac, os oes. cysoni i fod, mai'r Efengylwyr eraill sydd i'w dwyn i gytgord ag ef, ac nid ef â hwy. Y mae ei adroddiad ef yn gyson ag ef ei hun, ac â ffeithiau hysbys, tra na ellir dweud y naill na'r llall am adroddiad yr Efengylwyr Cyfolwg. Yn eu hawydd naturiol i