ochel priodoli anghywirdeb i'r Efengylwyr Cyfolwg, cais rhai eu dwyn hwy i gytgord ag Ioan. Dilyn y ceisiadau hyn ddwy linell. (1) Bod adroddiad yr Efengylwyr Cyfolwg, cyn cyrraedd ei ffurf bresennol, wedi myned trwy ryw gymaint o gyfnewidiad: a phe caem afael ar y ffynonellau gwreiddiol, y buasai y rheini mewn mwy o gytgord ag adroddiad Ioan. Yni mhlaid y ddamcaniaeth hon, gellir dadlau ei bod yn cynnig esboniad golygus ar yr anhysonderau a welir yn adroddiad yr Efenylwyr Cyfolwg fel y mae. Ond wedi'r cwbl damcaniaeth yw, ac antur beryglus yw symud o dir tystiolaeth i dir dyfaliad. (2) Bod yr Efengylwyr Cyfolwg yn defnyddio rhai ymadroddion mewn ystyr fwy rhydd na'u hystyr llythrennol fanwl. Y mae Westcott, er yn dal mai'r pedwerydd ar ddeg oedd dydd y Croeshoeliad, ac felly nad y Pasg rheolaidd oedd. y Swper Olaf, ar yr un pryd yn awgrymu ddarfod i'r Efengylwyr. Cyfolwg alw'r Swper Olaf yn Basgam mai'r Swper hwnnw, yn ymarferol, a fu Pasg yr Iesu a'i ddisgyblion am y flwyddyn honno. Yn gyffelyb, pan ddywaid yr Efengylwyr Cyfolwg mai ar ddydd. cyntaf gwyl y bara croyw" y paratodd y disgyblion y "pasg," awgryma rhai y dylem roddi ystyr eang i'r dywediad, sef "pan oedd dydd cyntaf gwyl y bara croyw yn agosáu." Os felly, y mae'n rhyfedd na buasai'r Efengylwyr Cyfolwg wedi arfer mwy o fanylder gyda dyddiad mor bwysig.
B.—Y DYDD O'R WYTHNOS.
Y mae hwn uwchlaw amheuaeth—ein dydd Gwener ni ydoedd. Pa faint bynnag o anghysondeb sydd rhwng yr Efengylau Cyfolwg ac Efengyl Ioan ar faterion eraill, cytunant ar hyn. Dyna hefyd draddodiad yr Eglwys o'r dechrau; a dyna farn unfrydol awduron diweddar, gydag un eithriad. Ac er nad yw'r eithriad hwnnw neb llai na Westcott (Introduction to the Study of the Gospels), y mae ef, yn hyn o beth, nid yn unig wedi methu ennill canlynwyr, ond hyd yn oed wedi methu ennill nemawr o sylw yn y ffordd o wrthwynebiad. Cynnig Westcott y ddamcaniaeth mai ar ddydd Iau y bu'r Croeshoeliad; a'i ddadl yw mai felly yn unig y ceir cyflawniad o eiriau'r Gwaredwr ei Hun," y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear" (Math. xii. 40). Ond cytunir yn gyffredinol na raid deall y "tridiau a thair nos" yn eu hystyr lythrennol fanwl, y gallant olygu "rhan o dridiau," a'u bod felly'n hollol gyson â'r syniad mai dydd Gwener oedd dydd y Croeshoeliad.
IV.
Y MANDEAID.
Syndod o bosibl i'r darllenydd a fydd gweled y pennawd hwn: ond y mae a fynno â'r ddadl ddiweddaraf oll ynghylch Efengyl Ioan. Pobl Ddwyreiniol yw'r Mandeaid, yn preswylio yn neheubarth