gwlad Babilon. Tardd eu henw o'r gair "Manda," ystyr yr hwn. yw "gwybodaeth." Felly y mae tebygrwydd rhyngddynt a Gnosticiaid y ddwy ganrif gyntaf: a dichon bod y tebygrwydd hwn yn arwyddo rhywbeth mwy. Yr oeddym wedi arfer meddwl bod Gnosticiaeth wedi darfod amdani ers llawer dydd. Ond efallai y bydd raid inni newid ein meddwl: efallai fod un adran o'r mudiad hwnnw wedi goroesi'r canrifoedd ac yn aros hyd heddiw. Os felly, Mandeaeth yw'r adran honno. Daeth y byd Gorllewinol i wybol am y Mandeaid, yn gyntaf, trwy lafur cenhadon Pabaidd oddeutu tri chan mlynedd yn ôl: ond o fewn y deugain mlynedd. diweddaf y daethant yn destun sylw arbennig. Darganfuwyd bod ganddynt gasgliad nid bychan o Ysgrythurau. Brithir yr Ysgrythurau hyn gan ymadroddion sydd yn cydgordio yn hynod â rhai o brif ymadroddion Efengyl Ioan. Wele rai dyfyniadau of Ysgrythurau'r Mandeaid:—
(1) "Y gwir gennad wyf fi, yn yr hwn nid oes celwydd yr un gwir yn yr hwn nid oes celwydd, ynddo ef nid oes brycheuyn na bai . . . . Gwinwydden ydym ni, gwinwydden bywyd, pren na all ddweud anwiredd; pren moliant, perarogl yr hwn a nertha bob dyn ag anadl bywyd."
(2) "Bugail wyf fi sydd yn caru ei ddefaid: yr wyf yn gwylio fy nefaid a'm hwyn: o gylch fy ngwddf yr wyf yn cario fy nefaid, ac ni chrwydrant o'r pentref. Yr wyf yn eu dwyn i'r gorlan, y gorlan dda, ac yna gyda mi y cant borfa. O safn Iwffrates, Iwffra. tes ddisglair, dygais iddynt roddion rhyfeddol . . . . Ni naid blaidd i'n corlan, a rhag llew ffyrnig nid rhaid iddynt ddychrynnu; y dymest nid rhaid iddynt ei hofni, ac ni all unrhyw leidr byth ymosod arnom ni thyr lleidr i mewn i'w corlan, ac arswyd y cleddyf ni theimlant: pan oedd fy nefaid wedi gorwedd i lawr mewn hedd, a'm pen ar y trothwy'n gorwedd, yna agorodd agen yn yr uchelder, a rhuodd y daran o'r tu ôl i mi." (Yna darlunir y defaid wedi eu bygwth gan ddilyw, ac mewn perygl o foddi; ond daw'r bugail gyda'i gwch, ac ymeifl a'i ddwylo ym mhob dafad a glyw ei alwad ac a wrendy ar ei lais, tra trenga'r defaid na chlywant yn y dyfroedd).
Ni all y dyfyniadau hyn lai na'n hatgofio o'r Wir Winwydden a'r Bugail Da yn Efengyl Ioan; a cheir yn yr Ysgrythurau Mandeaidd gyflawnder o syniadau eraill sydd yn nodweddiadol o'r Bedwaredd Efengyl, megis y goleuni; y ffordd; y dwfr bywiol; tŷ'r Tad a'i drigfannau; didoliad y credinwyr oddi wrth y byd, a'u herledigaeth gan y byd; dwyfol ymgnawdoliad a dwyfol Fabolaeth.
Amhosibl yw meddwl mai damweiniol yn unig yw'r holl gyfatebiaethau hyn. Felly cyfyd y cwestiynau, (1) A yw Efengyl Ioan yn dibynnu ar yr Ysgrythurau Mandeaidd? neu, (2) A yw'r Ysgrythurau Mandeaidd yn dibynnu ar Efengyl Ioan? neu, (3) A yw'r naill a'r llall yn dibynnu ar ffynonellau eraill?