EFENGYL IOAN.
PENNOD XI
1 Ac yr oedd un yn glaf, Lazarus o Bethania, o dref
1 Ac (gwell, "Ond ") yr oedd un yn glaf. Fel pe dywedasid, "Ond daeth terfyn ar seibiant yr Iesu ym Mherea, canys yr oedd un yn glaf." Beunydd yr ymyrrai profedigaethau plant dynion â seibiant y Gwaredwr.
Lazarus o Bethania. Ni wyddom ddim am y gŵr hwn ond a fynegir yn y bennod hon a'r nesaf. Y mae amryw ddyfaliadau amdano. Un yw mai ef oedd y llywodraethwr ieuanc goludog a aeth ymaith yn athrist oddi wrth yr Iesu; os felly, rhaid ei fod yn ddiweddarach wedi dychwelyd a throi yn ddisgybl i'r Gwaredwr. Un arall yw mai ef oedd y gŵr ieuanc a ffodd ymaith yn noeth gan adael ei wisg yn nwylo ei elynion (Marc xiv. 51, 52). Ond er nad yw'r damcaniaethau hyn ynddynt eu hunain yn amhosibl, eto, yn wyneb absenoldeb unrhyw dystiolaeth o'u plaid, ni ellir eu derbyn fel ffeithiau diymwad. Gwrthun i'r eithaf yw'r syniad mai Lazarus o Fethania oedd "Lazarus" y cardotyn yn y ddameg (Luc xvi. 19 -31). Annhebyg iawn i'r Iesu, "y boneddwr mwyaf a welodd y byd erioed," fuasai defnyddio hanes un o'i gyfeillion mwyaf mynwesol yn destun dameg o'r fath. Nid oes unrhyw braw nac awgrym fod Lazarus o Fethania yn analluog i'w gynnal ei hun; a hyd yn oed pe buasai felly, prin y buasai ei ddwy chwaer ragorol yn goddef iddo orwedd yn ddirmygedig wrth borth unrhyw ŵr goludog. Atgyfodwyd Lazarus o Fethania o feirw; ond caredigrwydd amheus fuasai galw "Lazarus" y cardotyn yn ôl o "fynwes Abraham" i fyd a brofasai mor galed iddo.
O dref (gwell, "o bentref") Mair a'i chwaer Martha. Ychwanegir y cymal hwn, efallai, i wahaniaethu "Bethania" y "teulu " oddi wrth Fethania ym Mherea, lle o bosibl yr oedd yr Iesu ar y pryd. ("Bethania," nid "Bethabara," yw'r darlleniad cywir yn i. 28). Y tebyg yw, er na ddywaid yr Efengylwyr hynny'n bendant, mai Martha oedd yr hynaf o'r chwiorydd, a meistres y tŷ y preswyliai'r teulu ynddo: ond Mair a enwir gyntaf oherwydd y diddordeb eithriadol a berthynai iddi. Nid oes sail i'r dyb fod Martha'n briod, ac mai Simon y gwahanglwyfus (Math. xxvi. 6; Marc xiv. 3) oedd ei gŵr; nac ychwaith i'r dyb mai'r Simon hwn oedd tad y tri a phen y teulu.