Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

10 gweled goleuni y byd hwn: Ond os rhodia neb y nos,
efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo. Hyn
a lefarodd efe ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt,
Y mae ein cyfaill Lazarus yn huno; ond yr wyf
12 fi yn myned i'w ddihuno ef. Yna ei ddisgyblion a
ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a
13 fydd iach. Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef:
eithr hwy a dybiasant mai am hûn cwsg yr
14 oedd efe yn dywedyd. Yna y dywedodd yr Iesu


Goleuni y byd hwn. H.y., yr haul.

10. Am nad oes oleuni (gwell, "am nad yw'r goleuni ") ynddo. Y mae llygaid ganddo, ond nid yn ei lygaid ef y mae'r goleuni. Nid ydym i dybied bod y Gwaredwr yn cymhwyso'r ymadroddion hyn,—"os rhodia neb y dydd," &c., "ac os rhodia neb y nos," &c.—yn eu holl fanylion, ato ei Hun. Nid "goleuni'r byd hwn," nac unrhyw oleuni y tu allan iddo Ef ei Hun, a'i cadwai Ef rhag tramgwyddo tra yr oedd hi yn "ddydd": ac nid "tramgwyddo am nad oedd y goleuni ynddo" a wnaeth Ef pan ddaeth y nos," ond ei roddi ei Hun yn ymwybodol ac yn wirfoddol i ddwylo ei elynion. Pwynt y gymhariaeth yw hwn: Megis y mae dynion yn ddiogel rhag tramgwyddo yn ystod y dydd, am fod "goleuni'r byd hwn" ganddynt, felly yr oedd Yntau, tra yr oedd ei ddydd" heb ddarfod, yn ddiogel rhag ei elynion.

11. Y mae ein cyfaill Lazarus yn huno (gwell, "wedi huno "). Defnyddir y gair "huno "am farw amryw weithiau yn y T.N., ond byth am farwolaeth Iesu Grist ei Hun. Pa fodd y gwyddai Ef fod Lazarus wedi huno"? Ni ddywedir, ac nid rhaid tybied, bod negesydd arall o Fethania wedi ei hysbysu o'r ffaith. Un ai trwy ei hollwybodaeth ddwyfol, neu ynteu trwy'r cydymdeimlad ysbrydol cyfrin oedd rhyngddo Ef a dynion (ac yn enwedig a dioddefwyr), gwyddai'r Iesu farw Lazarus heb i neb ei hysbysu.

12. Os huno y mae, efe a fydd iach (yn llythrennol, "a achubir"). Tybiai'r disgyblion mai wedi syrthio i gwsg ar ôl twymyn yr oedd Lazarus, ac mai arwydd oedd hynny ei fod wedi dechrau troi ar wella.

13. Eithr hwy a dybiasant, &c. Rhaid bod eu hawydd angerddol i gadw'r Gwaredwr o Judea wedi pylu eu hamgyffredion: oblegid ost "am hun cwsg yr oedd Ef yn dywedyd," pa raid oedd iddo ychwanegu, yr wyf Fi yn myned i'w ddihuno ef"?