Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

15 wrthynt yn eglur, Bu farw Lazarus. Ac y mae yn
llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi,
16 fel y credoch; ond awn ato ef. Yna y dywedodd
Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd—ddisgyblion,
Awn ninnau hefyd fel y byddom feirw gyd ag ef.


14. Yn eglur. Yn llythrennol, "yn rhydd." Ceisiasai'r Gwaredwr arbed teimladau'r disgyblion (a'i deimladau ei Hun) trwy defnyddio ymadrodd tynerach; ond bellach rhaid oedd mynegi'r ffaith noeth, "Bu farw Lazarus."

15. Ac y mae yn llawen gennyi nad oeddwn i yno, &c. Yn y Test. Cymraeg, y mae rhyw sŵn caled yn y geiriau hyn: ond yn y gwreiddiol y mae trefn yr ymadroddion yn wahanol,—"Ac y mae yn llawen gennyf er eich mwyn chwi, fel y credoch, nad oeddwn I yno." Y mae'r datganiad, yn y ffurf gywir hon, yn hollol gydweddol â thynerwch y llefarwr. Nid llawenhau oherwydd y ffaith seml nad oedd yno y mae Ef; testun gofid yn hytrach na llawenydd iddo fuasai hynny; ond yr oedd y fantais i'r disgyblion yn gorbwyso ei deimlad pesonol Ef ei Hun.

Fel y credoch. Yr oedd y disgyblion eisoes yn credu; ond yr oedd eisiau iddynt gredu'n gryfach, a chredu mwy.

Ond awn ato ef. Nid at y chwiorydd, ond at Lazarus. Er ei fod ef wedi marw, ni ddarfuasai'r cymundeb ag ef.

16. Thomas. Ymddengys mai "Judas" oedd gwir enw'r disgybl hwn, ac mai dau gyfenw cyfystyr (yn golygu "gefell") oedd "Thomas" a "Didymnus." Ond yn hytrach na'i alw (gyda'r Dr. David Smith) yn Judas Efell," dewiswn lynu wrth yr enw "Thomas."

Awn ninnau hefyd. A demtiwyd y disgyblion am foment i adael i'r Gwaredwr fyned i Judea wrtho ei Hun? Pe buasent wedi ildio i'r demtasiwn, buasent wedi eu gorchuddio eu hunain â gwarth oesol. Efallai mai i Thomas, yr annhebycaf ar ryw olwg ohonynt oll, yr oeddynt i ddiolch am eu harbed rhag y gwarth hwn. Da oedd iddynt nad oedd Thomas yn absennol y tro hwn, fel ar achlysur diweddarach. Adweinir ef yn gyffredin fel "yr anghredadun," megis pe mai hynny fuasai ei unig hynodrwydd. Ond os oedd ei ffydd yn wan, yr oedd ei gariad yn gryf; ac iddo ef y disgynnodd yr anrhydedd o gymryd yr arweiniad a bod yn wron y tro hwn.

Fel y byddom feirw gydag ef. Nid gyda Lazurus, ond gyda'r Iesu. Fel pe dywedasai Thomas, "Buasai'n dda gennyf pe buasai'r Meistr yn rhoddi i fyny ei fwriad i fyned i Judea drachefn; nid oes dim ond marw yn ei aros yno ond gan ei fod Ef yn penderfynu myned, awn ninnau hefyd, canys gwell yw marw gydag Ef na byw hebddo."