Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

17 Yna yr Iesu wedi dyfod, a'i cafodd ef wedi
bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd.
18 A Bethania oedd yn agos i Jerusalem,
19 ynghylch pymtheg ystâd oddi wrthi: A llawer
o'r Iuddewon a ddaethent at Martha a Mair, i'w
20 cysuro hwy am eu brawd. Yna Martha, cyn gynted ag
y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i'w gyfarfod


17. Wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd. H.y., y pedwerydd dydd i Lazarus fod yn y bedd oedd y diwrnod y cyrhaeddodd y Gwaredwr. Gan mai tuag ugain milltir oedd rhwng y ddwy Fethania, gellid gwneud y daith mewn diwrnod. Felly casglwn mai ar y diwrnod y teithiodd y negesydd o'r naill Fethania i'r llall y bu farw Lazarus ac y claddwyd ef. Os ychwanegir y ddeuddydd yr arhosodd yr Iesu ym Mherea, ac os tybir iddo Yntau wneud y daith mewn diwrnod, gellir cyfrif am y pedwar diwrnod.

18. Ynghylch pymtheg ystad. H.y., oddeutu milltir a thri chwarter o'n mesur ni. Hyd "ystad" oedd 202 llath. Ysgrifennai Ioan ymhell wedi dinistr Jerusalem; a hawdd yw credu bod Bethania bellach wedi ei difodi, fel yr oedd yn rhaid i'r Efengylwr ddweud pa le yr oedd.

19. Llawer o'r Iddewon. H.y., o'r Iddewon anghrediniol; canys dyna yn ddieithriad yw ystyr y gair "Iddewon" gan Ioan, oddieithr pan ddefnyddia ef i wahaniaethu'r Iddewon fel cenedl oddi wrth genhedloedd eraill. Felly dyma un cyfle eto i Iddewon anghrediniol droi yn gredinwyr; a chyfle manteisiol iawn, gan y gallesid disgwyl i'w teimladau naturiol ar yr achlysur hwn wrthweithio eu rhagfarn.

I'w cysuro hwy am eu brawd. Arferai'r Iddewon ymweled â thai galar yn ystod y saith niwrnod cyntaf wedi'r brofedigaeth. Er bod llawer o ddefodaeth a ffurfioldeb yn perthyn i'r ymweliadau hyn, nid ydym i gredu nad oedd galar a chydymdeimlad yr ymwelwyr yn deimladau gwirioneddol.

20. Cyn gynted ag y clybu hi. Yn llythrennol, "pan glybu."

Ond Mair a eisteddodd yn y ty, am yr unig reswm na chlywsai'r newydd. Os Martha oedd yr hynaf a meistres y tŷ, hi yn naturiol fuasai'r gyntaf i'w glywed; ac aeth allan heb hysbysu ei chwaer, rhag tynnu sylw'r ymwelwyr.