Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ. Yna y dywedodd
Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma,
ni buasai farw fy mrawd. Eithr mi a wn hefyd yr
awrhon, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw,
23 y dyry Duw i ti. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Adgyf—
24 odir dy frawd drachefn. Dywedodd Martha wrtho,
Myfi a wn yr adgyfodir ef yn yr adgyfodiad, y dydd
25 diweddaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw yr
adgyfodiad, a'r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi,


21. Pe buasit ti (cywirach, "pe buasit," heb y rhagenw "Ti") yma, ni buasai farw y fy mrawd. Cyffes seml, heb yr acen gwerylgar a glywir ynddi gan rai, yw'r datganiad hwn.

22. Eithr mi a wn hefyd yr awrhon. Gwell, Hyd yn oed yn awr "gwn." Nid "credaf," ond "gwn"—gair cryfach.

Pa bethau bynnag. Yn llythrennol, "cymaint bynnag o bethau." A ddymunech di (cywirach, "a ofynnech," heb y rhagenw) gan Dduw. Nid yw'r Gwaredwr byth yn defnyddio'r ferf wreiddiol (aitein) am ei weddiau ei Hun, er y defnyddia hi am weddiau rhai eraill.

Y dyry Duw i ti. Trwy ailadrodd y gair "Duw," dengys Martha y syniad uchel oedd ganddi am berthynas yr Iesu â Duw.

23. Adgyfodir dy frawd. Gadawer allan y gair "drachefn."

24. Myfi a wn, &c. Yr oedd yr atgyfodiad mawr cyffredinol bellach yn erthygl sefydlog yng nghredo'r Iddewon. Y dydd diweddaf. Yn Efengyl Ioan yn unig, o holl lyfrau'r T.N., y ceir yr ymadrodd hwn yn y rhif unigol, er ei fod yn y rhif lluosog— "y dyddiau diweddaf "mewn mannau eraill.

25. Myfi yw yr adgyfodiad, a'r bywyd. Yma dywaid yr Arglwydd Iesu dri pheth. (1) Nid gweithred na gwaith yw'r Atgyfodiad, ond Person Myfi yw'r atgyfodiad"—nid rhywbeth a wnaed neu a wneir ganddo, ond Ef ei Hun. Ef yw'r Atgyfodiad fel mai Ef yw'r Iawn: nid pethau gwneud yw'r lawn a'r Atgyfodiad. Y mae Crist yn fwy na'i waith. Ond nid yw'n fwy na'r lawn, oblegid Ef yw yr Lawn:

"Dyweder maint y Duwdod,
Yr un faint yw'r Iawn i fod."

Ac nid yw Ef yn fwy na'r Atgyfodiad, oblegid Ef yw'r Atgyfodiad. (2) Nid rhywbeth yn perthyn i'r dyfodol, ac i'r dyfodol pell, yw'r Atgyfodiad, ond realiti presennol: "Myfi yw "—nid "a fydd"—"yr atgyfodiad." Soniasai Martha am y dydd diweddaf": dyna lle'r oedd ei hunig obaith hi, a chysur gwan oedd iddi. Ond nid yw'r Gwaredwr, yn ei ateb, yn sôn dim am y dydd diwethaf: ei amcan Ef yw datgysylltu sylw Martha oddi wrth y dydd diwethaf, a'i ganolbwyntio ar y presennol byw. (3) Nid rhywbeth eithriadol, annisgwyliadwy, croes i bob rheol a threfn yw'r Atgyfodiad, ond ymarllwysiad naturiol ac anocheladwy dwyfol gariad: Myfi yw yr atgyfodiad a'r bywyd." Iesu Grist yw'r Atgyfodiad am mai Ef yw'r Bywyd,—y bywyd sydd yn Nuw ei Hun: a chariad yw'r bywyd hwnnw. Gan hynny y mae'r Atgyfodiad nid yn unig yn arddangosiad o allu Duw, ond hefyd, ac yn bennaf, yn ddylifiad o gariad Duw. O edrych arno felly, y mae'r Atgyfodiad, mewn un ystyr, yn peidio â bod yn rhyfeddod; neu yn hytrach, y mae yn rhyfeddol yn unig am fod Iesu Grist yn rhyfeddol. Annisgwyliadwy nid yw, canys y mae yr union. beth sydd i'w ddisgwyl oddi wrth un mor dda ac mor fawr à Iesu Grist; ac eithriadol nid yw, canys y mae yn llinell union holl weithredoedd Dwyfol Gariad o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.

Er iddo farw. Yn llythrennol, "hyd yn oed pe byddai farw," h.y., marwolaeth naturiol.

A fydd byw. Nid ar ôl ei atgyfodiad yn unig, ond o hyd o'i farwolaeth ymlaen.