Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

28 Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i'r byd. Ac wedi
iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a
alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe
29 ddaeth yr Athraw, ac y mae yn galw am danat. Cyn
gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a
30 ddaeth ato ef. (A'r Iesu ni ddaethai etto i'r dref, ond
yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha âg ef.)
31 Yna yr Iuddewon y rhai oedd gyd à hi yn y tŷ, ac yn ei
chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn
myned allan, a'i canlynasant hi, gan ddywedyd, Y mae
32 hi yn myned at y bedd, i wylo yno. Yna Mair, pan


Yr hwn sydd yn dyfod i'r byd. Yr oedd Ef wedi dyfod: ond llefara Martha amdano oddi ar safle Iddewes dduwiolfrydig fel un a ddisgwylid.

28. Yn ddirgel, rhag tynnu sylw'r Iddewon oedd o amgylch.

Fe ddaeth yr Athraw. Yn llythrennol, "Y mae yr Athro yma."

Ac y mae yn galw amdanat, Ni ddywaid Ioan mo hynny yn ei adroddiad o'r ymddiddan: felly amlwg yw nad yw'r adroddiad yn gyflawn.

29. Cyn gynted ag y clybu hi. Cywirach, "Hithau pan glybu."

30. A'r Iesu ni ddaethai eto i'r dref (cywirach, "i'r pentref "). Gellir tybied mai dymuniad y Gwaredwr oedd cyfarfod y chwiorydd heb yr Iddewon, a chyflawni'r wyrth ym mhresenoldeb y chwiorydd a'r disgyblion yn unig.

31. A'i canlynasant hi. Ni chafodd y Gwaredwr mo'i ddymuniad: gorfu arno gyflawni'r wyrth ym mhresenoldeb torf gymysg o edrychwyr.

Gan ddywedyd, Y mae hi (cywirach, "gan dybied ei bod hi"), &c.

I wylo yno. Dynoda'r gair (klaiein) a gyfieithir yma "wylo" lef- ain uchel a pharhaol. Yr un gair a ddefnyddir eto am Mair ac am yr Iddewon yn adn. 33: ond gair arall sydd yn adn. 35,—"Yr Iesu a ŵylodd."