ddaeth lle yr oedd yr Iesu, a'i weled ef, a syrthiodd
wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe
33 buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw. Yr Iesu gan
hynny, pan welodd hi yn wylo, a'r Iuddewon y rhai a
ddaethai gyd â hi yn wylo, a riddfanodd yn yr yspryd,
32. Pe buasit ti (gwell, pe buasit ") yma, ni buasai fy mrawd farw.
Yr un geiriau sydd gan Mair ag a ddefnyddiasai Martha, ond
gydag un gwahaniaeth arwyddocaol yn eu trefn. Pwysleisia Mair y
ffaith fod Lazarus yn frawd iddi hi"ni buasai fy mrawd i farw."
Er bod y ddwy chwaer yn wrthrychau cariad y Gwaredwr, yr oedd
rhyw neilltuolrwydd yn y cymundeb ysbryd oedd rhyngddo Ef a Mair,
a gwyddai hithau hynny.
33. A riddfanodd (cywirach, "a gyffrowyd i ddigofaint ") yn yr
ysbryd. Nid yr Ysbryd Glân a olygir yma, ond ysbryd y Gwaredwr ei
Hun. Y mae'r ymadrodd yn y gwreiddiol yn amwys: gall olygu un
o ddau beth. (1) Mai ei ysbryd oedd gwrthrych ei ddigofaint: fel
pe dywedasai'r Efengylwr, a gyffrowyd i ddigofaint tuag at ei ys-
bryd." Os derbynir y golygiad hwn, cynigir tri esboniad ar yr ym-
adrodd. (a) Bod y Gwaredwr megis yn ddig wrtho ei Hun oherwydd
ei deimladau naturiol o alar a chydymdeimlad, ac o ganlyniad ei fod
yn ffrwyno'r teimladau hynny rhag iddynt ei orchfygu. Anfoddhaol
yw'r esboniad hwn, pe ond yn unig am ei fod yn anghyson â'r geiriau
sydd yn dilyn, ac a'i cynhyrfodd ei Hun." (b) Bod ysbryd y
Gwaredwr yn ymgilio rhag atgyfodi Lazarus, am y gwyddai Ef y
byddai trwy hynny yn prysuro ei angau ei Hun: a'i fod Yntau
megis yn galw'n llym ar ei ysbryd i ymnerthu ar gyfer y naill am-
gylchiad a'r llall. (c) Mai galw ar ei ysbryd yr oedd, nid i ymnerthu,
ond (i'r gwrthwyneb) i ymbwyllo, am fod angerddoldeb ei deimladau
yn ei demtio i atgyfodí Lazarus cyn yr amser. Rhwng (b) a (c) y
mae'r dewis os ydym i dderbyn y golygiad mai ysbryd y Gwaredwr
oedd gwrthrych ei ddigofaint. Ond gwell yw'r golygiad arall, a aw-
grymir yn y cyfieithiad Cymraeg, sef (2) Mai yn ei ysbryd y bu'r
ystorm. Beth ynteu oedd wedi cyffroi digofaint yr Arglwydd Iesu?
Y mae effaith mor fawr yn gofyn achos cyfartal; ac felly ymwrthodwn
ar unwaith â'r dybiaeth mai rhagrith neu anghrediniaeth yr Iddewon,
neu (syndod bod neb wedi meddwl hyn) amherffeithrwydd ffydd y
chwiorydd, a godasai'r fath ystorm yn ysbryd y fath un. Gwir mai
gweled Mair a'r Iddewon yn wylo oedd achlysur y digofaint; ond
rhywbeth llawer mwy a dyfnach oedd ei achos,-dim llai na holl
alanas pechod y byd, yn cynnwys teyrnasiad marwolaeth trwy bechod.
Blaenbraw o Galfaria oedd yr ystorm hon: "anfeidrol bwysau pechod
a wasgwyd arno Ef" yn y munudau hyn.
A gynhyrfwyd. Cywirach, "a'i cynhyrfodd ei Hun." Goddefwyr
fel rheol yw plant dynion pan gynhyrfir hwynt: ond ei gynhyrfu ei