Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

44 â llef uchel, Lazarus, tyred allan. A'r hwn a fuasai
farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a'i ddwylaw
mewn amdo a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcyn.
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn
45 rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith. Yna llawer o'r
Iuddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y
46 pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef. Eithr
rhai o honynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a
ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.


43. Lazarus, tyred allan. Yn llythrennol, Lazarus! Yma! Allan!" 44. A'r hwn a fuasai farw. Cywirach a mwy trawiadol, "Yr hwn," heb y cysylltair "a." Yn rhwym ei draed a'i ddwylo mewn amdo (cywirach, "mewn cadachau "). Gwêl rhai yma wyrth ychwanegol: ond dichon bod. pob troed a phob llaw wedi eu rhwymo ar wahân. Gollyngwch ef yn rhydd. H.y., "Dadrwymwch ef." A gadewch iddo fyned ymaith. angen Lazarus yn awr. Llonydd oddi wrth y dorf oedd 45. Llawer o'r Iddewon, y rhai a ddaethent, &c. Nid "o'r rhai," ond y rhai." Gellir aralleirio'r geiriau fel hyn: "Llawer o'r Iddewon-h.y., y rhai oll a ddaethent at Mair, &c.-a gredasant ynddo Ef." Hyfryd yw meddwl bod holl ffrindiau Mair wedi troi yn ffrindiau i'r Iesu; ac yr oedd y rheini yn llawer." At Mair. Paham nad at Martha hefyd? Efallai mai Ioan yn unig a wna'r gwahaniaeth, am mai Mair oedd yr uchaf o'r ddwy yn ei feddwl ef; ond efallai hefyd mai Mair oedd fwyaf yn ffafr yr ymwel- wyr, er y dywedir yn adn. 19 eu bod wedi dyfod at y ddwy. Ac a welsent y pethau (cywirach, "yr hyn ") a wnaethai yr Iesu (cywirach, "a wnaethai Ef"). 46. Eithr rhai ohonynt, &c. "Rhai" o'r rhai a ddaethent at Mair, ynteu o'r Iddewon yn gyffredinol? Dichon mai'r olaf; canys naturiol yw tybied ddarfod i Iddewon" eraill, oedd heb fod ymhlith ym. welwyr Mair, ymuno o gywreinrwydd â'r orymdaith ar ei ffordd at y bedd. Pa un ai da ai drwg oedd amcan y bobl hyn wrth fyned. at y Phariseaid, ni wyddom: ond gwyddom y canlyniadau !