Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl gen-
51 edl. Hyn ni ddywedodd efe o hono ei hun: eithr, ac
efe yn arch-offeiriad y flwyddyn honno, efe a
52 brophwydodd y byddai yr Iesu farw dros y genedl; Ac
nid dros y genedl yn unig eithr fel y casglai efe ynghyd
53 yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid. Yna o'r


Yr holl genedl. Wrth y bobl," golygir yr Iddewon yn eu per- thynas à Duw: wrth y genedl," yr Iddewon fel gwladwriaeth. 51. Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun. Yn y dyddiau gynt, cyn. colli o'r swydd ei gogoniant, yr archoffeiriad oedd llefarwr yr oraclau dwyfol. Parchai'r Efengylwr y swydd, beth bynnag oedd ei farn am Gaiaffas fel dyn: ac am hynny dywaid-nid mewn gwawd, ond o ddifrif-fod Caiaffas yn awr wedi derbyn oracl ddwyfol, ac wedi ei llefaru, er yn anfwriadol ac yn anymwybodol. Ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno. Dyn annhebyg iawn i dderbynnydd oracl ddwyfol oedd Caiaffas; ond yr oedd y flwyddyn honno yn flwyddyn eithriadol,-blwyddyn y blynyddoedd yn hanes y byd. Efe a broffwydodd. Nid a ragfynegodd" megis yn ddamwein- iol, onda broffwydodd" fel llefarwr oracl Duw. Dros (er mwyn) y genedl. 52. Ac nid dros (er mwyn) y genedl yn unig. Ni ddywedasai Caiaffas mo hyn: felly y mae'r Efengylwr yn ychwanegu at eiriau Caiaffas, yn ogystal ag yn rhoi ystyr ddyfnach iddynt. Nid yw Ioan yn ailadrodd y gair pobl," oherwydd, erbyn yr adeg yr oedd ef yn ysgrifennu, nid yr Iddewon mwyach oedd pobl yr Arglwydd, ond y Cristionogion, yn Iddewon a Chenedl-ddynion. Eithr. Cywirach, "eithr hefyd." Fel y casglai efe ynghyd yn un. Yn llythrennol,, "i un." Nid i un lle, ond i undeb a chymundeb bywyd. Blant Duw. H.y., y Cristionogion Cenhedlig-y "defaid eraill " (x. 16). Gelwir hwy yma'n "blant Duw," nid yn y rhagolwg ar eu dyfodol,-nid am eu bod i ddyfod yn blant Duw,-ond am mai dyna oeddynt eisoes. Y rhai a wasgarasid, nid o ran lle yn unig, ond hefyd o ran ysbryd a theimlad. Yr oedd undeb a chymundeb y "plant" wedi eu torri, ac yr oedd yr Iesu trwy ei farwolaeth yn myned i gyfannu'r rhwyg.