46 EFENGYL IOAN. XII. 23 A'r Iesu a attebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr 24 awr y gogonedder Mab y dyn. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig eithr os bydd efe 25 marw, efe a ddwg ffrwyth lawer. Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a'i cyll hi; a'r hwn sydd yn casâu ei einioes yn y byd hwn, a'i ceidw hi i fywyd tragwyddol. 23. O hyn allan collwn olwg ar y Groegiaid. A gawsant eu dy- muniad, ac a welsant yr Iesu, ni ddywedir. Ond amhosibl yw tybied ddarfod i'r Gwaredwr eu gwrthod; a dichon iddynt ddyfod ato gydag Andreas a Philip. Daeth yr awr y gogonedder (cywirach, "Daeth yr awr, fel y go- gonedder) Mab y dyn. Yr oedd yr Arfaeth Ddwyfol wedi apwyntio'r awr," honno, awr y Gwaed,"-i'r diben o ogoneddu Iesu Grist. Yn adn. 16 sonia'r Efengylwr am ogoneddiad yr Iesu yn ei atgyfod- iad a'i esgyniad, y gogoniant ar ôl hynny "(1 Petr i. 11). Ond yr oedd ei ddioddefiadau hefyd yn ogoneddiad arno; ac at y gogonedd- iad hwnnw y cyfeiria Ef ei Hun yma. Felly hefyd yn xi. 4: ond yno cyfeiria at ei ogoneddiad fel "Mab Duw," fel cynrychiolydd ei Dad, tra yma cyfeiria at ei ogoneddiad fel Mab y dyn,"-fel cynrych- iolydd dynion. 24. Hwnw a erys (yn llythrennol, sydd yn aros ") yn unig. A dyna wedi'r cwbl yw gwir farwolaeth,-unigrwydd a diffrwythdra. Marw i fyw y mae'r gronyn gwenith os syrth i'r ddaear: marw heb fyw y mae oni syrth. "y Eithr os bydd efe marw, efe a ddwg (yn llythrennol, y mae yn dwyn ") ffrwyth lawer. 25. Yr hwn sydd yn caru (cywirach, "yn hoffi") ei einioes. Y gair a gyfieithir "einioes" yma yw psuchê.' Yn adn. 27 cyfieithir ef "enaid." Yn yr adnod hon (25) golyga'r gair holl gyflawnder y bywyd naturiol, mewn cyferbyniad i'r bywyd ysbrydol. A'i cyll hi. Cywirach, "sydd yn ei cholli hi;" cywirach fyth, efallai, sydd yn ei dinistrio hi." A'r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn. Dylem werth- fawrogi ein "heinioes" fel rhodd Duw, ac fel cyfleustra i'w ogon- eddu a'i fwynhau Ef. Ond mor bell ag y mae ein heinioes yn per- thyn i'r byd hwn," ac felly wedi ei datgysylltu oddi wrth Dduw, yr ydym i'w "chasáu": h.y., ym mhob dewis rhwng ein heinioes a Duw, Ef sydd i gael y flaenoriaeth.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/50
Gwedd