Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

50 EFENGYL IOAN. XII. 33 bawb attaf fy hun. (A hyn a ddywedodd efe, gan 34 arwyddo o ba angau y byddai farw.) Y dyrfa a atteb- odd iddo, Ni a glywsom o'r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Iddewon," medd eraill. Ond pawb yn syml, heb unrhyw gyf- yngiad, a ddywaid y Gwaredwr yma; a rhaid cymryd y geiriau fel y maent, pa mor anodd bynnag yw eu cysoni à rhai ymadroddion eraill a briodolir i'r Arglwydd Iesu yn yr Efengylau. Y mae gwirionedd Duw yn fwy na chysondeb dyn. Gweler ymhellach ar xi. 48. 33. Gan arwyddo o ba angau (yn llythrennol, sef ar y groes) y byddai farw. o ba fath ar angau," 34. Y dyrfa (ychwaneger gan hynny ") a atebodd iddo. Pa un ai amheuaeth onest "ai ysbryd cynnen a barai iddynt siarad, anodd yw dweud. Ar y naill law, yr oedd eu hanhawster yn un gwirion- eddol; ar y llaw arall, y mae rhyw sŵn cwerylgar yn eu geiriau. Ni a glywsom o'r ddeddf. Wrth y "ddeddf " yma golygir Ysgryth- urau'r Hen Destament yn gyffredinol. Fod Crist (cywirach, "y Crist ") yn aros yn dragywyddol. Dy. wedir hyn amryw weithiau yn yr H.D.; ond yr ystyr a roddai'r dyrfa i'r dywediad oedd ei fod i aros yn dragwyddol ar y ddaear fel brenin daearol. A pha wedd yr wyt ti yn dywedyd. Y mae'r rhagenw ti" i'w bwysleisio "ti" mewn cyferbyniad i'r ddeddf." Fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn. Deallasai'r dyrfa fod y "dyrch- afiad yn golygu, neu yn cynnwys, marwolaeth; ac ni allent gysoni hynny a'r hyn a dybient hwy a glywsent o'r "ddeddf." Ni ddywaid Ioan fod y Gwaredwr wedi ei alw ei Hun yn "Fab y dyn yng nghlywedigaeth y dyrfa hon. Yn adn. 23 y ceir yr enw "Mab y dyn " olaf, ac nid yw'n debyg fod y dyrfa'n bresennol pan ddaeth Andreas a Philip at yr Iesu. Pwy ydyw hwnnw Mab y dyn? Pa un bynnag a oedd yr Iesu wedi ei alw ei Hun yn "Fab y dyn " yng nglywedigaeth y dyrfa hon ai nad oedd, amhosibl yw tybied na wyddai'r dyrfa maí ato ei Hun y cyfeiriai Ef o dan yr enw hwn. Gan hynny, os oedd y cwestiwn hwn yn un gonest, ei ystyr yw, "Beth a olyga'r enw Mab y dyn '?" Yn wyneb y ffaith fod yr enw hwn yn peri anhawster i esbonwyr hyd yn oed heddiw, nid rhyfedd bod y dyrfa hon yn methu â'i ddeall. Bu- asai rhyw enw fel "Mab Dafydd" yn fwy dealladwy iddynt hwy. Ond "Mab y dyn a ddewisodd yr Iesu, i ddangos (yn un peth) ei