Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XII. EFENGYL IOAN. 51 35 Mab y dyn? Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Etto ychydig ennyd y mae y goleuni gyd â chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio y tywyllwch chwi a'r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni 36 ŵyr i ba le y mae yn myned. Tra fyddo gennych ol- euni, credwch yn y goleuni, fyl y byddoch blant y fod am ei gysylltu ei Hun à phlant dynion yn gyffredinol, ac nid â'r genedl Iddewig yn unig. 35. Yna (gwell, Gan hynny ") yr Iesu a ddywedodd wrthynt. Nid "a atebodd iddynt": nid ateb eu cwestiynau y mae, ond dweud wrthynt" yr un peth angenrheidiol. Eto ychydig ennyd. Dichon bod yma gyferbyniad bwriadol â'r ymadrodd yn adn. 34, "fod y Crist yn aros yn dragywyddol," neu yn hytrach à dehongliad y dyrfa o'r ymadrodd hwnnw. â Y mae y goleuni gyda chwi (gwell, yn eich plith chwi "). Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni. Gwell, Rhodiwch fel y mae gennych y goleuni,"-h.y., Rhodiwch yn unol â'r ffaith fod y goleuni gennych." Fel na ddalio y tywyllwch (cywirach, tywyllwch," heb y fannod) chwi. Hyn a fyddai eu rhan onid iawn ddefnyddient y cyfle byr oedd eto ganddynt. A'r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch (cywirach, "yn y tywyll- wch," y fannod y tro hwn), ni wyr i ba le y mae yn myned (yn fanwl, "yn myned ymaith "). Ni all hyd yn oed y neb a ddelir gan dywyll- wch aros yn ei unfan: rhaid iddo yntau "rodio," heb wybod i ba le. "Myned ymaith" y mae,-ymaith oddi wrth y goleuni, ac felly i ddis- tryw. Gellir myned i ddistryw heb wybod hynny: "fe ddaw uffern heb ei hofni" (Morgan Llwyd). 36. Tra fyddo gennych (gwell, "Fel y mae gennych,"-gweler ar 35) oleuni (cywirach, "y goleuni "). Credwch yn y goleuni. "Rhodio yn adn. 35, "credu" yma. Efallai mai'r un peth a olygai'r Gwaredwr wrth y ddau: ond os ydynt i'w gwahaniaethu, nid ydynt i'w gwahanu. Y gwahaniaeth-os oes gwahaniaeth yw'r gwahaniaeth rhwng ffydd (credu) a gweithred- oedd da (rhodio). Fel y byddoch blant y goleuni. Cywirach, "fel y deloch yn feib- ion goleuni." Ganddynt yr oedd y goleuni wedi bod hyd yma; ond os credent yn y goleuni, deuent trwy hynny yn "feibion goleuni,"- h.y. (yn un peth), byddai'r goleuni ynddynt, ac nid ganddynt yn unig..