Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

52 EFENGYL IOAN. XII. goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadaw- odd, ac a ymguddiodd rhagddynt. 37 Ac er gwneuthur o hono ef gymmaint o arwyddion. 38 yn eu gwydd hwynt, ni chredasant ynddo: Fel y cyf- lawnid ymadrodd Esaias y prophwyd, yr hwn a ddy- wedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymad- rodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? 39 Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Esaias Yr oeddynt ar golli'r goleuni oedd ganddynt: ond os byddai'r goleuni ynddynt, ni chollent byth mohono. Hyn (yn llythrennol, Y Pethau hyn") a ddywedodd yr Iesu (cywirach, Iesu "). A yw Ef bellach wedi dweud ei air olaf wrth y byd y tu allan i gylch cyfrin y disgyblion? Gweler ar adn. 44. Ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd (cywirach, "a guddiwyd ") rhagddynt. Dichon bod i'r cuddio " hwn ddwy ystyr ystyr lyth- rennol ac ystyr ffigurol. Cuddiwyd Ef yn llythrennol, nid rhag iddynt ei niweidio (ni ddywedir eu bod wedi dangos tuedd i hynny), ond rhag iddynt ei flino, er mwyn sicrhau iddo'r tawelwch angenrheidiol i ym- baratoi gogyfer â'r "awr" agoshaol. Ond cuddiwyd Ef hefyd yn figurol, rhag i'r bobl hyn ei adnabod. Eu hanghrediniaeth hwy eu hunain oedd yn gyfrifol am y cuddio olaf. Canlyniad gwrthod credu yw methu â chredu, h.y., colli'r cyfleustna i gredu. 37. Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion. O'r holl Ef- engylwyr, gan Ioan y ceir lleiaf o hanesion am wyrthiau; ond cyf- eirir yma at wyrthiau'r Gwaredwr yn gyffredinol, ac nid yn unig at y rhai a gofnodir yn yr Efengyl hon. 38. Fel y cyflawnid ymadrodd Esaias y proffwyd. Nid "y cyf. lawnwyd," fel mater syml o ffaith, ond y cyflawnid," fel mater o arfaeth ddwyfol. Beth bynnag yw anawsterau'r syniad hwn, hyn a dim arall a ddywaid yr Efengylwr. Ceir yr ymadrodd yn Esa. liii. 1. Nid yw'r ffaith fod Ioan yn ei alw yn ymadrodd Esaias" yn gwrth- brofi yr hyn a gredir yn gyffredinol heddiw, sef nad eiddo Esaia yw. Nid oedd chwilio i mewn i awduriaeth Ysgrythurau yn rhan o waith Efengylwr, nac ychwaith yn rhan o anian ysbryd ei oes. 39. Am hynny ni allent gredu. Nid yn unig ni chredasant, ond ni allent gredu, am fod yr arfaeth ddwyfol wedi rhagordeinio na chred- ent. Pa fodd i gysoni arfaeth Duw â rhyddid ewyllys dyn, ni wyddom ni; digon yw dweud nad oedd yr "anallu" y cyfeirir ato yn rhyddhau'r bobl hyn o'u cyfrifoldeb. Oblegid dywedyd o Esaias drachefn,-yr Esaia gwirioneddol y tro hwn (Esa. vi. 10).