Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

56 EFENGYL IOAN. XII. ni leferais o honof fy hun: ond y Tad yr hwn a'm han- fonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywed- 50 wn, a pha beth a lefarwn. Ac mi a wn fod ei orch- ymyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru. hanfonodd I, y Tad ei Hun, a roddes orchymyn i Mi"). Na rodder ystyr beirianyddol i'r geiriau hyn: na thybier mai "adrodd gwers," a dim arall, yr oedd yr Arglwydd Iesu yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear. I'r gwrthwyneb, taflai Ef ei holl bersonoliaeth ei Hun i bo- peth a ddywedai. Er hynny nid "ohono ei Hun" y llefarai,-h.y., nid Ef ei Hun oedd tarddle eithaf ei genadwri. Cychwynasai'r gen- adwri oddi wrth y Tad, ac yr oedd felly yn ddwyfol. Fel pe dy- wedasai'r Gwaredwr, Yr oeddwn yma yn eich plith fel dyn ymhlith dynion er hynny nid dynol, ond dwyfol, oedd y gair a leferais." Beth a ddywedwn (y "gair "), a pha beth a lefarwn (y dywed- iadau "). 50. Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Pwy bynnag sydd yn derbyn y gorchymyn hwn,-h.y., yn ei dderbyn â'i holl galon,-y mae trwy hynny yn derbyn bywyd tragwyddol. Am hynny, sef "am fy mod yn gwybod hyn." Fel pe dywedasai, "Pa fodd y gallaf, a Minau'n gwybod fod gorchymyn y Tad yn fywyd tragwyddol, ymadael ar dde nac aswy oddi wrth y genadwri a gefais ganddo Ef?"