XIII. EFENGYI. IOAN. 59 6 yr oedd efe wedi ei wregysu. Yna y daeth efe at Simon Petr: ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, 7 a wyt ti yn golchi fy nhraed i? Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Y Peth yr wyf fi yn ei wneu- thur, ni wyddost ti yr awrhon, eithr ti a gei wybod 8 ar ol hyn. Petr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a attebodd iddo, Oni olchaf 6. Yna (gwell, Gan hynny ") y daeth efe (yn llythrennol, y mae yn dyfod") at Simon Petr. Nid oes sail o gwbl i'r hen dyb mai gyda Judas y dechreuodd y Gwaredwr. Mwy tebyg yw mai gyda Phetr y dechreuodd. Gwna hynny wrthdystiad Petr yn fwy naturiol a deall. adwy na phe buasai arall neu eraill eisoes wedi derbyn y gwasanaeth heb wrthdystio. Ac efe a ddywedodd wrtho, Y mae'r gwreiddiol yn fwy sydyn a byw, Y mae yn dywedyd wrtho" (heb y cysylltair "ac")." A wyt ti yn golchi fy nhraed i? Y mae'r ddau ragenw-Ti" a "fi" i'w pwysleisio. Yr hyn oedd yn annealladwy, ac ar y cyntaf yn annioddefol, i Betr oedd, nid ffurf y gwasanaeth, ond y ffaith seml fod y Meistr yn gweini ar y gwas. 7. Yr Iesu (cywirach, "Iesu "). Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awrhon. Y mae'r rhagenwau eto i'w pwysleisio, i ddangos yr agendor rhwng meddyl- iau'r Meistr a meddyliau'r disgybl. Eithr ti a gei wybod ar ôl hyn. Yn llythrennol, ar ôl y pethau hyn," sef yr holl amgylchiadau cysylltiedig à marwolaeth y Gwar- edwr. 8. Petr a ddywedodd (yn llythrennol, "Dywaid Petr ") wrtho. Ni chei di (gwell, Ni chei, heb y rhagenw) olchi fy nhraed i byth. Unig effaith addewid y Gwaredwr, y cai Petr wybod ar ôl y pethau. hyn," oedd peri i'r disgybl wrthdystio hyd yr eithaf, fel pe dywedasai, "Beth bynnag a ddaw ar ôl y pethau hyn, Meistr a fyddi Di, a gwas a fyddaf finnau; ni all dim, i dragwyddoldeb, newid y berthynas honno; ac am hynny ni chei Di olchi fy nhraed i byth." Yr Iesu (cywirach, "Iesu ") a atebodd iddo. Oni olchaf di. Nid "Oni olchaf dy draed." Yr oedd golchi'r traed yn arwyddlun o olchi'r holl ddyn, a'r golchi materol yn arwyddlun of olchi ysbrydol.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/63
Gwedd