60 EFENGYL IOAN. XIII. 9 di, nid oes i ti gyfran gyd â myfi. Simon Petr a ddy- wedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, 10 eithr fy nwylaw a'm pen hefyd. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn II lân, eithr nid pawb oll. Canys efe a wyddai pwy a'i bradychai ef: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi Nid oes iti gyfran gyd â myli. Cystal â dweud, "Nid wyt hyd yn oed yn was i Mi oni olchaf di." 9. Simon Petr a ddywedodd (yn llythrennol, Petr ") wrtho. Dywaid Simon Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, &c. Tebyg i Bedr oedd myned ar unwaith o un eithaf i eithaf arall. 10. Yr Iesu a ddywedodd (yn llythrennol, "Dywaid Iesu ") wrtho. Yr hwn a olchwyd. Cywirach, "a drochwyd." Y mae'r gair gwreiddiol yma yn wahanol i'r gair a gyfieithir "golchi" yn yr ad- nodau blaenorol, ac eto yn yr adnod hon ac yn adn. 14; a golyga olchi'r holl gorff. Nid rhaid iddo ond golchi ei draed. Gwell, "nid oes arno angen ei olchi, oddieithr ei draed." Gwahaniaetha'r ddwy lawysgrif orau- un y Vatican ac un Seinai-oddi wrth ei gilydd yma: y gyntaf yn cyn- nwys y geiriau "oddieithr ei draed," a'r olaf yn eu gadael allan, ac felly yn darllen, "nid oes arno angen ei olchi, eithr y mae yn lân oll." Y tebyg yw mai i mewn y mae'r geiriau "oddieithr ei draed" i fod. Gadawyd hwynt allan yn fwriadol, o bosibl, gan ryw gopïwr, yr hwn a dybiai eu bod yn anghyson â'r geiriau sy'n dilyn, yn lân oll." Ond nid oes yma anghysondeb; canys, er bod yr hwn a "droch- wyd yn lân oll mewn canlyniad i'w drochi, rhaid glanhau ei draed yntau eto yn barhaus oddi wrth lwch a llaid y ffordd. Ac yr ydych chwi yn lân. Nid yn berffaith eu buchedd, ond yn lân eu calon. Yr oedd llawer o waith perffeithio arnynt eto; ond yr oedd y gwaith mwyaf-y "trochi" wedi ei wneud: yr oedd Iesu Grist wedi ennill eu hymddiried a'u serch. Eithr nid pawb oll. Gwell, yn syml, "eithr nid pawb." 11. Canys efe a wyddai pwy a'i bradychai ef. Gwell, "Canys gwyddai" (neu "adwaenai ") "Ef yr hwn oedd yn ei draddodi Ef." Gwyddai, nid yn unig mai Judas ydoedd, ond hefyd pa fath un oedd Judas. Yr oedd brad Judas wedi dechrau eisoes,-"yr hwn oedd
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/64
Gwedd