XIII. EFENGYL IOAN. 63 20 ddyfod, fel pan ddél, y credoch mai myfi yw efe. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a'r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd 21 i. Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gyn- hyrfwyd yn yr yspryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddy- wedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y brad- 22 ycha un o honoch fi. Yna y disgyblion a edrychas- ant ar eu gilydd, gan ammeu am bwy yr oedd efe yn 23 dywedyd. Ac yr oedd un o'i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu. 20. Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi. pwy bynnag a ddanfonat Fi." Yn fanwl, 21. Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyriwyd yn yr ysbryd. Cywirach, "Wedi dywedyd y pethau hyn, Iesu a gynhyrf- wyd yn yr ysbryd." Yma eto, fel yn xi. 33, nid yr Ysbryd Glân a olygir, ond ysbryd yr Arglwydd Iesu ei Hun,-dyfnder eithaf ei ber- sonoliaeth. Ei gynhyrfu ei Hun" y mae Ef yn xi. 33; ond yma, "a gynhyrfwyd." Yn xii. 27, ei enaid" a gynhyrfir; ond yma, ei "ysbryd." Yn y rhagolwg ar ei ddioddefiadau ei Hun, cynhyrfwyd. ei enaid yn y rhagolwg ar frad Judas, cynhyrfwyd ei ysbryd. Felly, mewn rhyw ystyr, yr oedd gweled un o'i ddisgyblion yn myned golledigaeth yn ddyfnach ing i'r Gwaredwr na meddwl am y cwpan oedd yn ei aros Ef ei Hun. Amhosibl i ni yw elfennu teimladau'r Gwaredwr tuag at Judas ar yr achlysur hwn. Pa un ai digofaint ai tosturi oedd oruchaf yn y cynhyrfiad"? Neu a oedd y tosturi'n angerddoli'r digofaint? 22. Yna y disgyblion a edrychasant, &c. Gwell, Edrychodd y disgyblion ar ei gilydd" (gadawer allan y gair yna "). Gan ameu (gwell, "heb y syniad lleiaf") am bwy yr oedd (yn llythrennol, y mae ") efe yn dywedyd. Gall y gair amau" ein camarwain i dybied bod un yn tueddu i ddrwgdybio arall; ond gwyddom nad dyna'r ffaith, canys dywaid Mathew a Marc mai eu hofni cu hunain, ac nid amau ei gilydd, yr oedd y disgyblion. Judas ei hunan yn unig a wyddai'r gyfrinach (gweler adn. 2); ond, gan rag- rithio, edrychodd yntau ar ei gyd-ddisgyblion. 23. Ac yr oedd (cywirach, "Yr oedd," heb y cysylltair "ac") un o'i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu. Eisteddai'r disgybl hwn, medd Westcott, ar yr ochr dde, a Phetr ar yr ochr aswy, i'r Gwar-
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/67
Gwedd