Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XIII. EFENGYL IOAN. 67 32 wyd ynddo ef. Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a'i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a'i 33 gogonedda ef yn ebrwydd. O blant bychain, etto yr wyf ennyd fechan gyd â chwi. Chwi a'm ceisiwch : ac, megis y dywedais wrth yr Iuddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywed- a wnai hynny? Atebwyd y cwestiwn yn derfynol pan aeth Satan i mewn i Judas. 32. Os gogoneddwyd Duw ynddo ei. Amrywia'r llawysgrifau gorau gyda golwg ar ddodi i mewn neu adael allan y geiriau hyn; ond, ar y cylan, trŷ'r fantol o blaid eu gadael allan. Felly darllener yr adnod fel hyn: A Duw a'i gogonedda Ef ynddo ei Hun, ac a'i gogonedda Ef yn ebrwydd." Y mae'r ferf yn y ddwy frawddeg hyn yn yr amser dyfodol ac y mae'r gogoneddiad y cyfeirir ato yma yn cynnwys y dioddefiadau a'r gogoniant ar ôl hynny. Arwydda'r ym- adrodd ynddo ei Hun" y byddai i Dduw ogoneddu'r Gwaredwr mewn undeb hanfodol ag Ef ei Hun; a chan mai fel "Mab y dyn y llefara'r Iesu yma anidano ei Hun, yr ystyr yw y byddai i Dduw ogoneddu dynoliaeth y Gwaredwr yn undod y Duwdod. 33. O blant bychain. Er bod y cyfarchiad hwn yn awgrymu bychander ac anaddfedrwydd y disgyblion, eto nid dyna'r nodyn amlycaf ynddo. Cyfarchiad o anwyldeb yw, a'r anwyldeb hwnnw wedi ei angerddoli gan ragolwg y llefarwr ar ei ymadawiad agos- haol. Wrth alw'r disgyblion yn blant," arddel yr Iesu berthynas rhyngddo Ef ei Hun, ac felly rhwng Duw, a hwynt. Cymharer i. 12, "yn blant" (nid yn feibion ") "i Dduw." Eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. "Ennyd fechan," y mae'n wir; ond ennyd yn yr hon y cyfoethogodd y Gwaredwr ei ddisgyblion a'i Eglwys à gweddi ac anerchiad o anfeidrol fawredd. Chwi a'm ceisiwch. Dywedasai'r Iesu hyn wrth yr Iddewon ddwy- waith o'r blaen y tro cyntaf (vii. 34) gyda'r ychwanegiad "ac ni'm cewch," yr ail dro (viii. 21) gyda'r ychwanegiad ac a fyddwch feirw yn eich pechod." Ond y tro hwn wrth ei "eiddo" y llefarai; ac felly nid oes yma unrhyw ychwanegiad o'r fath. Lle yr wyf fi yn myned (yn fanwl, "yn myned ymaith "), ni ell. wch chwi ddyfod. Yn viii. 21 dywaid y Gwaredwr yr un peth, yn yr un geiriau, wrth yr Iddewon. Yn vii. 34 ei eiriau wrthynt yw, "Lle yr ydwyf Fi, ni ellwch chwi ddyfod." Yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awrhon. Yr oedd y Ffordd Ddolurus-y Via Dolorosa '-oedd yn aros y Gwar-