XIII. EFENGYL IOAN. 69 36 A Simon Petr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti yn myned! Yr Iesu a attebodd iddo, Lle yr ydwyf fi yn myned, ni elli di yr awrhon fy nghan- 37 lyn: eithr ar ol hyn y'm canlyni. Petr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, paham na allaf fi dy ganlyn yr awr- 38 hon? mi a roddaf fy einioes drosot. Yr Iesu a atteb- odd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith. 36. A Simon Petr a ddywedodd (cywirach, "Dywaid Simon Petr ") wrtho. Arglwydd, i ba le yr wyt ti yn myned (yn fanwl, yn myned ymaith")? Yr Iesu a atebodd iddo (cywirach, Atebodd Iesu "), Lle yr ydwyf fi yn myned (gwell, Lle yr wyf yn myned ymaith "), ni elli di yr awrhon fy nghanlyn; eithr ar ôl hyn y'm canlyni. Dywedasai'r Iesu o'r blaen, wrth yr Iddewon ac wrth y disgyblion, "Lle yr wyf Fi yn myned ymaith, ni ellwch chwi ddyfod,"-dim yn ychwaneg hyd yn oed wrth y disgyblion. Ond yma, wrth Betr, dywaid fwy: er na allai Petr ei ganlyn yr awrhon," deuai'r adeg pryd y gallai ac y gwnâi, -pryd y byddai i Betr yntau ddioddef, ac yna fyned i mewn i lawen- ydd ei Arglwydd. Cymharer geiriau'r Gwaredwr wrth Betr yn adn. 7. 37. Mi a roddaf fy einioes drosot. Yr oedd Petr yn gywir yn ei syniad fod y ffordd yn un beryglus, ond yn anghywir (er yn onest) yn ei syniad am ei allu ef ei hun ar y pryd i'w thramwy. 38. Yr Iesu a atebodd iddo. Cywirach, "Etyb Iesu." A roddi di dy einioes drosof fi? Daeth Petr wedyn yn ddigon cryf i wneud hynny; ond ar y pryd, yr oedd mor wan fel y gwadodd ei Arglwydd deirgwaith y noson honno.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/73
Gwedd