Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XIV. EFENGYL IOAN. 71 3 i chwi. Yr wyf fi yn myned i barattôi lle i chwi. Ac os myfi a af, ac a barottoaf le i chwi, mi a ddeuaf dra- chefn, ac a'ch cymmeraf chwi attaf fy hun; fel lle yr 4 wyf fi, y byddoch chwithau hefyd. Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a'r ffordd a wyddoch. 5 Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wybod fy mod yn myned i baratoi ychwaneg." Ond gweheirdd yr adnod nesaf yr esboniad hwn, oblegid yno awgryma'r Gwaredwr yn eglur ei fod, fel mater o ffaith, yn myned i baratoi lle iddynt. Felly'r cys- ylltiad yw, A phe amgen, dywedaswn i chwi, canys yr wyf yn myned i baratoi lle i chwi,"-h.y., Gan fod paratoi lle i chwi yn un o amcanion fy ymadawiad, dywedaswn wrthych pe na buasai digon o le ar eich cyfer." Er bod llawer o drigfannau yn y tŷ, yr oedd yn rhaid i'r Gwaredwr fyned i'w paratoi. 3. Ac os myfi a ai, ac a baratoaf le i chwi. Amod yr uniad trag- wyddol oedd yr ymwahaniad byr. уг Mi a ddeuaf drachefn, ac a'ch cymeraf chwi (yn llythrennol, wyf yn dyfod drachefn, a chymeraf chwi ") ataf fy hun. O! gariad heb ei gymar-myned ei Hunan i baratoi lle i'w bobl, dyfod ei Hunan i'w cyrchu i'r lle hwnnw! Lle yr wyf (nid y byddaf ") fi. Gweler ar xii. 26. 4. Ac i ba le yr wyf fi yn myned ("yn myned ymaith "). Chwi a wyddoch, a'r ffordd a wyddoch. Yn ôl y llawysgrifau gorau, nid dwy frawddeg sydd yma, ond un felly darllener yn syml, Gwyddoch y ffordd." Oni welent y pen draw, o leiaf gwyddent y cyfeiriad. Gwyddent pa fath un oedd eu Meistr, a pha fodd yr oedd Ef wedi rhodio ac yn rhodio. 5. Dywedodd ("Dywaid ") Thomas wrtho. Yn yr ymddiddan bythgofiadwy hwn, nid y disgyblion pennaf a gymer ran, ond rhai o'r lleill, Thomas, Philip, a Judas nid yr Iscariot. Distaw a fu Petr y mae'n debyg fod geiriau olaf y Gwaredwr wrtho wedi ei ddifrifoli. Trodd noson fwyaf y Gwaredwr yn gyfle i'w ddisgyblion lleiaf. Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned ("yn myned ymaith") a pha fodd (cywirach, pa fodd," heb y cysylltair) y gallwn wybod (cywirach, y gwyddom ") y ffordd? Dyna Thomas i'r dim, eisiau gweled cyn credu, eisiau gwybod y pen draw cyn. gwybod y ffordd. Ond iaith ffydd yw, "Ni cheisiaf weled dim O'r tir sy draw: un cam sy ddigon im."