Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

74 EFENGYL IOAN. XIV. 10 dywedyd, Dangos i ni y Tad? Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid o honof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd. Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau: ac onid ê, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu II 12 Y neb a'm gwelodd i, a welodd y Tad. Yr oedd y datguddiad o'r Tad yn Iesu Grist yn anhraethol gyflawnach nag a fuasai unrhyw ddatguddiad trwy weledigaeth o'r fath a geisiai Philip. A pha fodd. Cywirach, pa fodd," heb y cysylltair. 10. Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau? Cymharer geiriau'r Gwaredwr wrth yr Iddewon yn x. 38. Rhyfedd cyn lleied, ac eto gymaint, y gwahaniaeth rhwng y disgyblion a'r Iddewon anghrediniol! Nid oedd ond megis cam rhyngddynt; ac eto hwnnw oedd y cam o farwolaeth i fywyd. Y geiriau (y dywediadau ") yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru (gwell, yn eu siarad "-gair gwahanol). Cystal à dweud, Pe buaswn yn llefaru ohonof fy Hun, siarad gwag fuasai fy lleferydd." Cymharer xii. 49. Ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd (cywirach, ond y Tad, gan aros ynof, sydd yn gwneuthur ei weithredoedd "). Profai geiriau a gweithredoedd yr Arglwydd Iesu ei fod Ef yn y Tad, a'r Tad ynddo Yntau. Yn y fraw- ddeg hon symuda y Gwaredwr oddi wrth ei eiriau at ei weithredoedd; eto nid ydym i dynnu llinell derfyn gaeth rhyngddynt, canys yr oedd ei eiriau Ef yn weithredoedd, yn rhan o weithredoedd y Tad ynddo a thrwyddo. 11. Credwch fi. H.y., "Cymerwch fy ngair fy Hun yn derfynol." Ac onidé, credwch fi (cywirach, "credwch," heb y rhagenw) er mwyn y gweithredoedd eu hunain. H.y., H.y., onid yw fy ngair yn ddigon, syrthiwch yn ôl ar y gweithredoedd, a gadewch i'r rheini ddwyn eu tystiolaeth." Buasai'n well gan y Gwaredwr iddynt ei gymryd ar ei air; er hynny y pwnc pwysig oedd iddynt gredu ryw fodd. Os daw Iesu Grist i mewn, nid yw o nemawr wahaniaeth. trwy ba ddrws y daw. Cymharer x. 38. 12. A mwy (h.y., gweithredoedd mwy) na'r rhai hyn a wna efe, oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad (cywirach, at y Tad ").