XIV. EFENGYL IOAN. 77 byn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a'i hadwaenoch ef; o herwydd y mae yn aros 18 gyd â chwi, ac ynoch y bydd efe. Nis gadawaf chwi 19 yn amddifaid: mi a ddeuaf attoch chwi. Etto ennyd. bach, a'r byd ni'm gwel mwy; eithr chwi a'm gwel- wch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau Yr hwn ni ddichon y byd (sef y byd ar wahân i Dduw) ei dderbyn, am nad yw yn ei weled (gwell, yn ei ganfod), nac yn ei adnabod ef. Ni fedd y byd" mo'r cydymdeimlad sydd yn gymhwyster anhep- gorol i dderbyn yr Ysbryd. Ond chwi a'i hadwaenoch ei. Gadawer allan yr "ond." Oherwydd y mae yn aros gyda chwi (yn fanwl, "yn eich ymyl " neu "wrth eich ochr "). Ac ynoch y bydd efe. Amrywia'r llawysgrifau gorau yma; ond y darlleniad yn yr orau oll-llawysgrif y Vatican-yw "ynoch y mae Ef," amser presennol. Felly y tebyg yw mai hwn yw'r darlleniad cywir, ac mai'r hyn a ddywaid y Gwaredwr yw, nid "Y mae'r Ysbryd eisoes yn eich ymyl, ond fe ddaw'r amser pryd y bydd ynoch," ond "y mae eisoes yn eich ymyl ac ynoch." Er na ddaethai'r Pentecost eto, yr oedd yr Ysbryd eisoes yn bresennol ar y ddaear: canys lle bynnag y mae Crist, yno y mae'r Ysbryd hefyd. Yn yr adnod hon a'r un flaenorol defnyddia'r Gwaredwr dri ymadrodd i osod allan y cymundeb rhwng yr Ysbryd Glân a'r disgyblion:-(1) "Gyda chwi," h.y., mewn cymdeithas à hwynt; (2) "yn eich ymyl," h.y., yn yr Eglwys; (3) ynoch," h.y., ym mhob credadun unigol. 18. Nis gadawaf chwi yn amddifaid. Plant amddifaid fuasent hebddo Ef, canys yr oedd Ef megis Tad yn ogystal â Brawd iddynt. Mi a ddeuaf (cywirach, "yr wyf yn dyfod") atoch chwi. Nia yn lle Iesu Grist y daeth y "Dadleuwr arall." Fel yr oedd yr Ysbryd yma cyn y Pentecost, y mae Crist yma ar ôl yr Atgyfodiad a'r Pentecost. 19. Eto ennyd bach, a'r byd ni'm gwêl (cywirach, nid yw yn fy nghanfod") mwy. A oedd y byd wedi ei "ganfod" Ef o gwbl? Yn yr ystyr ddyfnaf, nac oedd; er hynny yr oedd y byd wedi bod yn ymwybodol o'i bresenoldeb Ef, ac wedi teimlo nid ychydig oddi wrth ei bresenoldeb. Eithr chwi a'm gwelwch (cywirach, "eithr yr ydych chwi yn fy nghanfod"). Yn y frawddeg hon a'r un flaenorol, y mae y ferf yn yr amser presennol. Gwir mai'r dyfodol, wedi i'r "ennyd bach" fyned heibio, a olygir; ond eisoes edrychai'r Gwaredwr ar y dyfodol. hwnnw fel presennol.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/81
Gwedd