XIV. EFENGYL IOAN. 79 22 Dywedodd Judas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw yr achos yr wyt ar fedr dy eglurhâu dy 23 hun i ni, ac nid i'r byd? Yr Iesu a attebodd ac a ddy- wedodd wrtho, Os car neb fi, efe a geidw fy ngair; a'm Tad a'i car yntau, a nyni a ddeuwn atto, ac a 24 wnawn ein trigfa gyd âg ef. Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau a'r gair yr yd- ych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo y Tad A minnau (yn fanwl, a Mi" a'i carai ei, ac a'm hegluraf (yn llythrennol, ac a'm dangosaf") fy hun iddo. Byddai i'r Iesu ei "ddangos ei Hun" mewn modd eglur, yn eglurach nag y dangosasai ei Hun trwy ei bresenoldeb yn y corfi. Nid rhaid inni genfigennu wrth gydoeswyr daearol yr Arglwydd Iesu: y mae dangosiad mwy yn ein cyrraedd ni nag a gawsant hwy yn nyddiau ei gnawd Ef. 22. Nid yr Iscariot. Yr oedd yr Iscariot yn ddigon pell erbyn hyn. Pa beth yw yr achos (yn llythrennol, Pa beth sydd wedi dig. wydd ") yr wyt ar iedr dy eglurhau (yn llythrennol, dy ddangos") dy hun i ni, ac nid i'r byd? Tybiai Judas, nid heb sail ymddangos- iadol o leiaf, fod y Gwaredwr wedi newid ei raglen,-mai ei fwriad gwreiddiol oedd ei ddangos ei Hun i'r byd; a gofyn yr apostol beth a ddigwyddasai i beri i'r Iesu newid ei fwriad. 23. Yr Iesu (Iesu ") a atebodd . . . wrtho. Etyb y Gwaredwr gwestiwn Judas, nid trwy ddweud beth a ddigwyddasai, ond trwy nodi'r cymhwyster i dderbyn y dangosiad." Os car neb fi, efe a geidw fy ngair. Nid fy ngorchmynion" na "fy nywediadau," ond "fy ngair." Ffurfiai'r gorchmynion â'r dy- wediadau oll gyda'i gilydd un gair." Yr un ferf a gyfieithir "cadw" yma ag yn adn. 15 a 21. A nyni a ddeuwn ato. Yma fe'i gesyd yr Iesu ei Hun yn ogyfuwch â'r Tad. Ac a wnawn ein trigfa (gwell, "ein trigfan "). Yr un gair sydd yma am drigfan" ag am drigfannau " yn adn. 2. Gydag ef. Yn llythrennol, "wrth ei ochr "neu yn ei ymyl." Caiff y Cristion yr hyn a chwenychai Petr ar Fynydd y Gweddnew. idiad, gyda'r gwahaniaeth mai'r Tad, ac nid Moses ac Elias, a fydd gyda Christ. 24. A'r hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau. Nid fy ngair" y tro hwn, ond "fy ngeiriau." Efallai fod yma. awgrym na all y rhai nad ydynt yn ei garu Ef ganfod unoliaeth ei genadwri.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/83
Gwedd