Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

So EFENGYL IOAN. XIV. 25 a'm hanfonodd i. Y pethau hyn a ddywedais wrth- 26 ych, a mi yn aros gyd â chwi. Eithr y Diddanydd, yr Yspryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi yr holl bethau, ac a ddwg ar gôf i 27 chwi yr holl bethau a ddywedais i chwi. Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi : nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac 25. Y pethau hyn. H.y., y pethau a ddywedasai Ef yn ystod yr ymddiddan hwn. 26. Yn fy enw i. Yr oedd yr Iesu ei Hun wedi dyfod, ac wedi gwneuthur ei weithredoedd, yn enw'r Tad (v. 43; x. 25): a deuai'r Ysbryd Glân yn ei enw Yntau. Golyga "yn fy enw I fwy o lawer nagar fy nghais" neu "fel fy nghynrychiolydd,"-nid llai na bod yr Ysbryd yn gwneud ei holl waith yng Nghrist, megis y gwnâi Crist Yntau ei holl waith yn y Tad. Y Efe a ddysg i chwi ., ac a ddwg ar gof i chwi... mae gwaith yr Ysbryd yn ddeublyg-dysgu ac atgofio. Yr oedd yr Iesu wedi bod yn dysgu yr apostolion; ond rhaid oedd iddynt wrth yr Ysbryd i agor eu llygaid i wir a chyflawn ystyr yr hyn a ddysgas- ai'r Gwaredwr iddynt. A ddywedais (gwell, "a ddywedais I," y "Fi" i'w bwysleisio) i chwi. 27. Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd. Dyma gymynrodd y Gwaredwr i'w ddisgyblion,-" tangnefedd": nid esmwythyd heb ystormydd, ond tangnefedd sydd yn dal, ac hyd yn oed yn cyrraedd ei uchafnod, yng nghanol ystormydd. Fy nhangnefedd. H.y., nid yn unig "y tangnefedd yr wyf Fi fy Hun yn ei feddu," ond "y tangnefedd sydd yn nodweddiadol ohonof Fi." Yr ydwyf yn ei roddi i chwi. Gan ei fod Ef yn ei "roddi," y mae bellach yn eiddo llwyr iddynt. Nid fel y mae y byd yn rhoddi. Nid yr un math ar roddi, ac nid yr un math ar roddion. Yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Pwysleisier y "Fi" a'r "chwi." Na thralloder eich calon, ac nac ofned. Ail edrydd y Gwaredwr ei eiriau yn nechrau'r bennod, ond gydag ychwanegiad. O bob tra- llod dacarol, onid ofn yw'r mwyaf?