Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XV. EFENGYL IOAN. PENNOD XV. 83 I Myfi yw y wir winwydden, a'm Tad yw y llafurwr. 2 Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynu ymaith: a phob un a ddygo ffrwyth, y mae 3 efe yn ei glanhau, fel y dygo fwy o ffrwyth. Yr awr- hon yr ydych chwi yn lân trwy y gair a leferais i 1. Myfi yw y wir winwydden. Gan nad oes unrhyw sôn am win- wydden yn flaenorol, y tebyg yw mai rhywbeth o flaen llygaid y Gwaredwr ar y pryd a awgrymodd y figur hwn iddo. Os yn yr Oruwchystafell y llefarodd Ef y geiriau sydd yn dilyn, awgrymwyd y gyffelybiaeth, un ai gan y gwin oedd ar y bwrdd, neu ynteu gan winwydden a dyfai ar fur y tŷ. Os ar y ffordd o'r tŷ i'r Olewydd y llefarwyd y geiriau, yr oedd digon o winwydd yn y gymdogaeth i awgrymu'r gyffelybiaeth; ond os yng nghyntedd y deml y llefarwyd y geiriau, y dybiaeth fwyaf naturiol yw mai'r winwydden aur ar byrth y deml a awgrymodd y ffigur. Yn y Proffwydi a'r Salmau y mae'r winwydden yn arwyddlun o'r Eglwys-Eglwys yr Hen Desta- ment. Felly dweud y mae'r Iesu yma mai Ef yw'r "wir" Win- wydden, mewn cyferbyniad i'r winwydden naturiol ac i'r hen Eglwys. Ef ei Hun, ac nid y naill na'r llall o'r rhai hyn, sydd yn sylweddoli'r syniad perffaith am winwydden. A'm Tad yw y llafurwr. Trwy wahaniaethu rhwng y winwydden a'r llafurwr, gwahaniaetha'r Iesu rhyngddo Ef ei Hun a'r Tad, ac fe'i gesyd ei Hun yn yr un categori à'i ddilynwyr. Yr oedd Yntau, fel dyn, yn sefyll yn yr un berthynas à hwythau â'r Tad, ac, mewn rhyw ystyr, o dan ddisgyblaeth y Tad megis hwythau. 2. Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymaith. Y mae'r gangen yn gangen yng Nghrist, a gall fod mewn undeb bywyd ag Ef mor bell ag i ddwyn dail; ond gan mai dwyn ffrwyth, ac nid dail, yw amcan y winwydden, tynnir y gangen ddi- ffrwyth ymaith. A phob un a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glanhau, fel y dygo fwy o ffrwyth. "Nid da lle gellir gwell": nid bodlon y llafurwr ar ddim llai na gorau'r winwydden. Gan hynny y mae Ef yn "glan. hau" 'r gangen ffrwythlon,-h.y., yn tynnu oddi wrthi bopeth sydd yn achosi iddi wneud llai na'i gorau. Nid yw'r "glanhau" hwn o angenrheidrwydd yn oruchwyliaeth boenus i'r "gangen," er y gall fod felly, a'i fod felly yn fynych. 3. Yr awrhon yr ydych chwi yn lân. Yma ni cheir mwyach yr ychwanegiad sydd yn xiii. 10,-"eithr nid pawb." Yr oedd y "glan-