XV. EFENGYL IOAN. 85 7 hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a losgir. Ost arhoswch ynof fi, ac aros o'm geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynwch, ac efe a fydd i chwi. 8 Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, ar ddwyn o honoch 9 ffrwyth lawer; a disgyblion fyddwch i mi. Fel y car- odd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch 7. Os arhoswch ynof fi, ac aros o'm geiriau (yn llythrennol, "o'm dywediadau ") ynoch. Nid Ef ei Hun y tro hwn (megis yn adn. 4), ond ei ddywediadau." Ar yr un pryd, os yw ei ddywediadau'n aros, y mae Ef ei Hun yn aros. Beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac efe a fydd i chwi. Os yw dywediadau Iesu Grist yn aros yn y dyn, adlais o'r dywed- iadau hynny yw gweddi'r dyn,-anadlu dywediadau Iesu Grist yn ôl at Dduw y niae ef; a dyna'r sicrwydd yr atebir y weddi. Y mae mor amhosibl i Dduw wrthod ateb gweddi fel hyn ag a fuasai iddo wrthod ateb deisyfiadau ei Fab ei Hun. Y mae pob gwir weddi yn dechrau, yn ogystal ag yn diweddu, ei thaith yn y nefoedd. Nid esgynnodd gweddi erioed i'r nef, oddieithr yr hon a ddisgynnodd o'r nef. 8. Yn hyn. Tybia rhai mai cyfeiriad sydd yma at y geiriau sydd yn dilyn yn hyn," sef ar ddwyn ohonoch ffrwyth lawer." Ond tebycach yw mai at eiriau'r adnod flaenorol y cyfeirir: "yn hyn," sef yn arosiad y disgyblion yng Nghrist, a'r sicrwydd canlynol yr atebid eu gweddiau. Y gogoneddwyd fy Nhad. Nid "y gogoneddır": y mae'r ferf yn yr amser gorffennol, oherwydd dechreuodd y gogoneddiad y foment. yr unwyd y disgyblion à Christ. Ar ddwyn ohonoch (gwell, fel y dygoch ") ffrwyth lawer. Am- can y gogoneddiad, ac nid ei gynnwys, sydd yma. A disgyblion fyddwch i mi. Y mae'r llawysgrifau gorau yn gwa- haniaethu yma. Yn yr orau oll,-llawysgrif y Vatican,-y darllen- iad yw, ac y byddoch ddisgyblion i Mi." Os felly, yr ystyr yw bod i'r gogoneddiad ddau amcan: (1) fel y dygoch ffrwyth lawer," (2) "fel y byddoch ddisgyblion i Mi." Ond yn y ddwy lawysgrif nesaf mewn teilyngdod,-un Seinai ac un Alexandria, y mae'r cymal hwn yn frawddeg annibynnol, fel yn y Test. Cymraeg. Pa un bynnag o'r ddau ddarlleniad a ddewisir, awgryma'r ferf yr amser dyfodol. Yr oedd y disgyblion eisoes yn ddisgyblion i Grist, ond yr oeddynt hefyd. i ddyfod yn ddisgyblion iddo. Nid oes unrhyw ddisgybl ar y ddaear yn ddisgybl perffaith: "cyrchu at y nod" y mae pob un, a hynny trwy ddwyn ffrwyth. 9. Gellir darllen yr adnod hon mewn un o ddwy ffordd :-(1) fel yn y Test. Cymraeg; (2) "Fel y carodd y Tad Fi ac y cerais Innau
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/89
Gwedd