Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XV. EFENGYL IOAN. 87 12 lawn. Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich 13 gilydd, fel y cerais i chwi. Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyf- 14 eillion. Chwychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi 15 Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni wyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneu- thur: ond mi a'ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid pob peth ar a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i 12. Dyma fy ngorchymyn i, y gorchymyn newydd sydd yn cynnwys ac yn symio i fyny ei holl orchmynion Ef. Fel y cerais i chwi. Gweler ar xiii. 34. (xiii. 34) 13. Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sei, bod i un roi ei ein. ioes (yn fanwl, roi ei einioes i lawr ") dros ei gyfeillion. Datgan gwirionedd cyffredinol ("bod i un," h.y., unrhyw un) y mae'r Iesu yma. Eithaf cariad yw hunanaberth; ac eithaf hunanaberth yw dodi'r einioes i lawr dros arall. Nid yw'r gair "cyfeillion" i'w bwysleisio yma, fel pe dywedasai'r Gwaredwr, Eithaf cariad dyn yw marw dros gyfeillion, ond yr wyf Fi'n myned i farw dros fy ngelyn- ion." Y mae hynny'n wir (gweler Rhuf. v. 8, 10), ond nid y gwir- ionedd hwnnw sydd yma. 14. Chwychwi yw (nid "a fydd," dyfodol, ond "yw," presennol) fy nghyfeillion, os gwnewch. Pa fodd y gall y presennol ddibynnu ar y dyfodol? Pe dywedasai'r Gwaredwr, Chwychwi a fydd fy nghyfeillion, os gwnewch," buasai'r geiriau'n fwy dealladwy; ond yn llai efengylaidd, oblegid yr ystyr fuasai mai'r ufudd-dod yw amod y cyfeillgarwch. Eithr nid dyna a ddywaid Ef; yr hyn a ddywaid yw eu bod eisoes yn gyfeillion os ufuddhaent. Y mae'r eglurhad yn ddeu- blyg (1) Trwy eu hufudd-dod y dangosent eu bod yn gyfeillion (cym- harer xiii. 35); (2) trwy eu hufudd-dod y cyflawnid ac y perffeithid eu cyfeillgarwch (cymharer adn. 8, "a disgyblion fyddwch "-neu "ac y byddoch ddisgyblion "-"i Mi," ac adn. 11, "ac y cyflawner eich Ilawenydd "'). Pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn. Gwell, "yr hyn yr wyf yn ei orchymyn," h.y., y gorchymyn mawr newydd. 15. Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision, fel y gwnaethai yn xii. 26 (y gair am "was" yno yw diakonos ') a xiii. 16 (y gair yno, ac yma, yw doulos'). Oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur. Yn ein dyddiau ac yn ein gwlad ni, mater o gytundeb gwirfoddol o'r