88 EFENGYL IOAN. XV. 16 chwi. Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dew- isais chwi, ac a'ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynoch gan y Tad ddwy ochr yw perthynas meistr a gwas, ac felly nid peth anghyffredin o gwbl yw i'r meistr gymryd y gwas i'w gyfrinach. Ond yn y dydd- iau hynny ystyr gwas oedd caethwas; ac felly nid oedd y gwas namyn offeryn yn llaw ei feistr. Ond mi a'ch gelwais chwi. Yn fanwl, yr wyf wedi eich galw chwi," h.y., wedi rhoddi'r teit! iddynt, nid ani y tro, ond am byth. Yn gyfeillion. Sylwer mai dweud y mae'r Gwaredwr, nid eu bod hwy wedi troi o fod yn weision i fod yn gyfeillion, ond ei fod Ef ei Hun wedi troi o'u galw'n weision i'w galw'n gyfeillion. Yr oeddynt yn weision o hyd, a hynny yn ystyr drylwyraf y gair-yn gaethweis. ion; a byddent felly am byth; ond yr oeddynt hefyd erbyn hyn yn gyfeillion, ac yn fwy o gyfeillion nag o weision. Yr oedd y cyfeill- garwch yn elfen ddyfnach yn eu perthynas a'r Iesu na'r gwasan- aeth; am hynny ar y cyfeillgarwch, ac nid ar y gwasanaeth, y gesyd Ef bellach y pwyslais. Oblegid pob peth a'r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi. Cymerasai'r Gwaredwr y disgyblion yn llwyr i'w gyfrinach. Nid yw'n canlyn fod y disgyblion wedi ei llwyr ddeall; i'r gwrthwyneb, amherffaith iawn oedd eu hamgyffrediad ohoni, a rhaid oedd idd- ynt wrth arweiniad yr Ysbryd i'w deall yn well yn y dyfodol. 16. Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi. Dyma'r sicrwydd fod y cyfeillgarwch rhyngddo Ef a hwythau yn barhaol a disigl,-mai oddi wrtho Ef, ac nid oddi wrthynt hwy, y cychwynnodd y peth: "mae'r afael sicraf fry." Yr oedd eu hym- afliad hwy ynddo Ef yn wan: ond yr oedd ei ymafliad Ef ynddynt hwy'n gadarn. Tybia rhai, ac yn eu plith Luther, mai at ddewis- iad y disgyblion i fod yn saint y cyfeiria'r Gwaredwr: ond tebycach yw mai eu dewisiad i fod yn apostolion a olygir. Ar yr un pryd, y mae'r hyn a ddywaid y Gwaredwr yma yn wir am bob credadun, enwog neu ddistadl: nid y credadun yn gyntaf sydd yn ei ddewis Ef, ond Ef sydd yn dewis y credadun. Yn fynych, troi ato Ef wedi methu ym mhobman arall y mae'r dyn; a phe buasai rhywun neu rywbeth arall yn gwneud y tro, ni fuasai'r dyn byth yn dewis Iesu a'i farwol glwy'." Ond tra yr oedd y dyn yn troi ei lygaid i gyfeiriadau eraill, yr oedd yr Iesu, heb yn wybod iddo, yn chwilio amdano ef. "I sighed for rest and happiness, I yearned for them, not Thee; But, while I passed my Saviour by, His love laid hold on me."
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/92
Gwedd