XV. EFENGYL IOAN. 89 17 yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi. Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu o honoch eich gilydd. 18 Os yw y byd yn eich casâu chwi, chwi a wyddoch 19 gasâu o hono fyfi o'ch blaen chwi. Pe byddech o'r Ac a'ch ordeiniais chwi. Yn llythrennol, "ac a'ch gosodais chwi,"-h.y., eu gosod yn apostolion. Canlyniad eu "dewis" oedd "gosod." eu Fel yr elech (yn fanwl, fel yr elech chwi ymaith ") ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai cich ffrwyth. Nodir yma dair agwedd ar waith y disgyblion. Yr oedd i fod (1) mewn ystyr yn waith anni bynnol ("chwi," nid Myfi;" ymaith," sef ymaith oddi wrthyf Fi"); (2) yn waith effeithiol ("ac y dygech ffrwyth "); (3) yn waith parhaol (ac yr arhosai eich ffrwyth "). Megis (cywirach, "fel") pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo eie i chwi. Dibynna'r "fel" hwn eto, megis yr un blaenorol ("fel yr elech chwi ymaith," &c.) ar y geiriau "Myfi a'ch dewisais chwi, ac a'ch gosodais chwi." Felly yr oedd i'r "dewisiad a'r gosodiad" amcan deublyg: (1) er mwyn y gwaith. a wnâ'r apostolion; (2) er mwyn y cymundeb a fyddai rhyngddynt a'r Tad. Sylwer ar y gwahaniaeth rhwng y geiriau hyn a geiriau'r Gwaredwr yn xiv. 14. Yno, i'r Mab y gofynnir, a'r Mab sydd yn ateb; yma, i'r Tad y gofynnir (er eto yn enw'r Mab), a'r Tad sydd yn ateb. 17. Hyn yr wyf yn ei orchymyn (cywirach, "Y pethau hyn yr wyf yn eu gorchymyn ") i chwi, garu ohonoch eich gilydd (gwell, fel y caroch eich gilydd," amcan y gorchmynion, yn ogystal â'u syĺ- wedd). 18. Os yw y byd yn eich casáu chwi. Nid "os" o amheuaeth yw hwn yr oedd y byd yn eu casáu. Gwyddai'r Iesu hynny; ac anodd meddwl na wyddai'r disgyblion eu hunain hefyd. Chwi a wyddoch. Cyfieitha'r Test. Cymraeg y ferf yn y modd mynegol ond gellir ei chyfieithu hefyd yn y modd gorchmynnol,- gwybyddwch;" a dyna o bosibl y cyfieithiad gorau. Gasáu ohono fyfi o'ch blaen chwi. Yn fanwl, "gasáu ohono Fyfi yn gyntaf ohonoch." Felly dengys ffurf wreiddiol yr ymadrodd ei fod Ef a hwythau'n aelodau o'r un gymdeithas. Y mae Ef yn gyntaf. anedig ymhlith brodyr lawer, yn ogystal ag yn uniganedig Fab y Tad. 19. Pe byddech (gwell, "pe buasech") o'r byd, y byd a garai (cywirach, "a hoffai "philein') yr eiddo. Yr oeddynt eto yn
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/93
Gwedd