90 20 21 EFENGYL IOAN. XV. byd, y byd a garai yr eiddo; ond oblegid nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis allan o'r byd, am hynny y mae y byd yn eich casâu chwi. Cofiwch yr ymad- rodd a ddywedais i wrthych; Nid yw y gwas yn fwy na'i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwi- thau hefyd a gadwant. Eithr hyn oll a wnant i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm y byd, ond nid oeddynt mwyach o'r byd,-nid "eiddo "'r byd mo. honynt. Pe buasent o'r byd, "hoffai"'r byd hwynt-hoffter natur- iol y tebyg at ei debyg, heb ddim o'r ystyr fwy cynhwysfawr sydd yn y gair caru." Ond oblegid nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis (gwell, "eich dewis chwi ") allan o'r byd. Sylwer ar fynych ddefnydd y Gwaredwr o'r rhagenw chwi" yn yr adnodau hyn. 20. Cofiwch yr ymadrodd (yn llythrennol, "y gair ") a ddywed. ais i wrthych. Tybia Westcott mai cyfeiriad sydd yma, nid at xiii. 16, ond at eiriau'r Gwaredwr ar amgylchiad blaenorol ym Math. x. 24. Ei sail dros dybied hynny yw, bod y cymhwysiad a wna'r Iesu o'r geiriau yn xiii. 16 yn wahanol i'r un a wna ohonynt ym. Mathew ac yma. Ond gan mai'r noson honno y llefarasai'r Gwar edwr y geiriau yn xiii. 16, anodd yw meddwl nad oes yma gyfeir- iad atynt, er nad yw hynny yn cau allan y dybiaeth fod yma gyf- eiriad at yr amgylchiad arall hefyd. Os erlidiasant fi. .. os cadwasant fy ngair i, Pwy yw y rhai sydd yn erlid, neu yn cadw'r gair, ni ddywedir; ac nid oedd eisiau dweud, canys amlwg yw y golygir pawb, yn gyffredinol a ddaethai i gyffyrddiad a'r Iesu, ac a ddeuai i gyffyrddiad â'r disgyblion. Ail adroddiad a fyddai eu profiad hwy o'i brofiad Ef, rhai yn erlid, eraill yn cadw'r gair. Dyry rhai esbonwyr ystyr ddrwg i'r ymadrodd cadw'r gair yma, sef ei wylio gydag amcan maleisus; ond yr ystyr dda yw'r fwyaf naturiol.-yr un ystyr ag sydd i gadw y gorchmynion xiv. 15 (yr un gair a gyfieithir cadw yno ac yma). Sylwer na chydnebydd y Gwaredwr unrhyw dir canol rhwng "erlid " "chadw'r gair." Os oes rhywrai'n derbyn y gair gyda pharch, ond heb ei gadw," gyda'r erlidwyr y gesyd Ef y rheini. Cymharer geiriau Morgan Llwyd o Wynedd am Lyfr y Tri Aderyn," Dir gelwch, i rai i'w ddeall, ac i eraill i'w watwor." Rhwng y ** deall " a'r gwatwor" nid oes canolfan. yn 21. Eithr hyn (cywirach, "y pethau hyn ") oll a wnant i chwi, Amlwg yw mai at yr erlidwyr yn unig y cyfeirir yma, ac nid o gwbl
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/94
Gwedd