XV. EFENGYL IOAN. 91 22 hanfonodd i. Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awrhon nid oes gan- 23 ddynt esgus am eu pechod. Yr hwn sydd yn fy nghas- 24 au i, sydd yn casâu fy Nhad hefyd. Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod; ond yr awrhon hwy at y rhai a geidw'r gair. Ymddengys bod yr ymadrodd gwreiddiol a gyfieithir "a wnânt i chwi" yn dra arwyddocaol,-ei fod yn golygu, nid yn unig y byddai i'r byd eu herlid, ond mai hwynthwy a fyddai nod arbennig erledigaeth y byd, h.y., mai Iesu Grist a'i ddilynwyr a ystyriai'r byd fel ei elynion pennaf a chryfaf. Er mwyn fy enw i. H.y., "am mai fy enw I,-y Crist, Mab Duw, a fydd sylwedd eich cenadwri." Ní fuasai ar fyd na diafol ofn y disgyblion na'u holynwyr ar wahân i Grist. Am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i. Defnyddia'r Gwar- edwr yr ymadrodd yr Hwn a'm hanfonodd I," yn hytrach na "Duw" neu y Tad," i ddangos y cyferbyniad rhwng parch hon. edig yr Iddewon i Dduw a'u hanwybodaeth hollol ohono. Pe buas- ent yn adnabod Duw, buasent yn adnabod Iesu Grist fel ei anfon- edig Ef. Y mae adnabyddiaeth o Dduw ac adnabyddiaeth o Grist yn cydsefyll neu yn cydsyrthio. 22. Onibai fy nyfod a llefaru wrthynt. Yr oedd y datguddiad wedi bod yn ddeublyg: presenoldeb yr Iesu ("ty nyfod ") a'i eiriau ("a llefaru wrthynt"). Ni buasai arnynt (yn llythrennol, "ganddynt ") bechod. H.y., "Pe buaswn wedi dyfod atynt yn unig fel dyn ymhlith dynion, ac nid fel y Mescia a Mab Duw, ni fuasent i'w beio am fy ngwrthod." Ond yr awrhon nid oes ganddynt esgus am eu pechod. Nid yn unig nid oedd ganddynt amddiffyniad digonol, ond nid oedd ganddynt hyd yn oed esgus "-rhith o amddiffyniad. 23. Yr hwn sydd yn fy nghasán i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd. Tybiai'r Iddewon eu bod yn parchu'r Tad; a'u parch honedig i'r Tad oedd eu rheswm proffesedig dros gasáu ac erlid Iesu Grist. Ond y gwir yw, mai agwedd meddwl a chalon dyn tuag at Iesu Grist yw agwedd ei feddwl a'i galon tuag at y Tad hefyd. Cymharer v. 23. 24. Yn adn. 22 cyfeiria'r Gwaredwr at dystiolaeth ei bresenol- deb a'i eiriau: yma cyfeiria at dystiolaeth ei weithredoedd, a thrwy hynny dengys mor drwyadl ddiesgus oedd yr Iddewon. Hyd yn
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/95
Gwedd