92 25 EFENGYL IOAN. XV. a welsant, ac a'm casasant i a'm Tad hefyd. Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith oed à chaniatáu eu bod islaw teimlo argraff ei bresenoldeb a deall ystyr ei eiriau, gallesid disgwyl y buasent o leiaf yn gwerthfawrogi ei weithredoedd,-y buasai y rheini yu nes at lefel eu dirnadaeth hwy. Y gweithredoedd ni wnaeth neb arall. Gwir fod eraill wedi gwneud gweithredoedd tebyg i wyrthiau Iesu Grist; ond arbenig- rwydd ei wyrthiau Ef oedd eu bod yn cadarnhau ei ddysgeidiaeth amdano ei Hun. Gwnaethai Elias ac Eliseus wyrthiau; ond ni phroffesent hwy eu bod yn ddim amgen na dynion, ac felly amlwg. ydoedd nad yn eu nerth eu hunain y gwnaent eu gwyrthiau. O'r ochr arall, rhagdybiai holl ddysgeidiaeth yr Iesu amdano ei Hun ei fod Ef yn Dduw; ac felly yr oedd Ef, wrth wneud ei wyrthiau, yn gweithredu yn y nerth a hawliai fel yn perthyn iddo ei Hun. Ond yr awrhon hwy a welsant, ac a'm casasant i a'm Tad hefyd. Y mae'r geiriau I a'm Tad hefyd " i'w cysylltu â phob un o'r ddwy ferf, ac nid â'r ferf casasant yn unig. Yn gymaint â'u bod wedi gweled Iesu Grist, yr oeddynt hefyd wedi gweled y Tad ynddo Ef; a chanlyniad gweled y naill a'r llall oedd casáu'r naill a'r llall. Pechasai'r Iddewon felly yn erbyn y goleuni. 25. I wneud y meddwl yn eglur, rhaid dodi rhai geiriau i mewn: Eithr bu hyn oll fel y cyflawnid y gair, &c. Er bod ymddygiad yr Iddewon yn bechod anfad, eto goddefwyd ef fel y cyflawnid bwr- iadau arfaeth gras. Trodd cynddaredd dyn yn foliant i Dduw. Eu cyfraith hwynt. Cymharer viii. 17 a x. 34. Yma fe'i dat- gysyllta'r Iesu ei Hun a'i ddisgyblion yn llwyr oddi wrth yr Iddewon. Hwy a'm casasant yn ddiachos. Dyfynnir yma o Ps. xxxv. 19 a Ps. lxix. 4. Cymharer hefyd Dan. ix. 26. Nid oes cyfeiriad union- gyrchol at y Meseia yn y naill na'r llall o'r adnodau yn y Salmau; ond yr oedd dioddefiadau saint yr Hen Dest. yn broffwydoliaeth o ddioddefiadau'r Gwaredwr, megis y mae dioddefiadau ei ddisgybl ion a'u holynwyr yn adlais-neu, yn iaith yr Apostol Paul, yn "gyf- lawniad o'i ddioddefiadau Ef. Un yw pob Un yw pob dioddef dros dioddef dros y da; fel y dywaid y Dr. Lewis Edwards, "Ond er newid gwedd oddi allan, un yw'r cweryl ym mhob oes; Yr ysbrydol a'r anianol sydd yn anghymodlawn groes." Eto ni wna hyn ymaith â'r gwirionedd cyferbyniol, fod i ddioddef- iadau Iesu Grist eu harwyddocâd arbennig eu hunain.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/96
Gwedd