XV. EFENGYL IOAN. 93 26 hwynt, Hwy a'm casasant yn ddiachos. Eithr pan dděl y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth. y Tad, (sef Yspryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deilliaw oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha am danaf 27 fi. A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o'r dechreuad gyd à mi. 26. Eithr (gadawer allan y gair hwn) pan ddêl y Diddanydd (yn fanwl, pan fyddo'r Dadleuwr wedi dyfoo"). Yr hwn a anfonaf (gwell, a anfonaf Fi," y mae'r rhagenw "Fi" yn bwysleisiol) i chwi oddi wrth y Tad. Sef (gadawer allan y gair hwn) Ysbryd y gwirionedd. Ar yr ym. adrodd Ysbryd y gwirionedd," gweler ar xiv. 17. Golyga'r ym- adrodd, nid yn unig fod tystiolaeth yr Ysbryd yn wir, ond hefyd mai y gwirionedd" yw'r maes arbennig y mae'r Ysbryd yn gweithio ynddo. Yr hwn sydd yn deilliaw (gwell, yn dyfod allan ") oddi wrth y Tad. Gall y gair a gyficithir yma deilliaw" olygu un ai (1) deill- iad" tragwyddol yr Ysbryd fel Person Dwyfol, neu (2) ei ddyfod- iad i'r byd. Y mae'r ymadrodd oddi wrth y Tad" (para ')-nid "o'r Tad" (ek), yr hwn fuasai'r ymadrodd naturiol i'w ddef- nyddio pc y deilliad tragwyddol a olygid, yn troi'r fantol o blaid. (2). Felly cyfieither dyfod allan," ac nid deilliaw." Y mae'r ferf yn yr amser presennol, er bod y ferí flaenorol ( a anfonaf Fi") yn yr amser dyfodol. Yr oedd yr Ysbryd eisoes yn dyfod allan oddi wrth y Tad, ac yn gweithio yn y byd; ac eto addawai'r Iesu ei anfon. Wrth gyfuno'r presennol a'r dyfodol fel hyn, dengys y Gwaredwr fod. hänes yr Eglwys o dan bob goruchwyliaeth yn un cyfanwaith. Yr oedd Ef yn myned i anfon yr Ysbryd, nid i wneud gwaith newydd, ond i barhau a chwpláu gwaith oedd eisoes wedi bod yn myned ymlaen ers oesoedd a chenedlaethau. Efe a dystiolaetha amdanai fi. Pa fodd? Ymhob modd effeith- iol i ddangos i'r byd ogoniant yr Iesu yn uchelderau mawr ei Dduwdod a dyfnderoedd ei ufudd-dod." 27. A chwithau hefyd a dystiolaethwch (cywirach, "ydych yn tystiolaethu "). Dechreuasai cu tystiolaeth eisoes. Deil y ferf yn y gwreiddiol ei chyfieithu yn y modd gorchmynnol,-"A thystiolaeth- wch chwithau;" ond y modd mynegol sydd orau yma. Am eich bod (gwell, oherwydd yr ydych ") o'r dechreuad gyda mi. Y mae'r ferf yn yr amser presennol: felly awgrymir yma fod cymdeithas y disgyblion a'r Gwaredwr uwchlaw amser. Wrth "y dechreuad" golygir dechreuad gweinidogaeth gyhoeddus y Gwar- edwr.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/97
Gwedd