94 +4 EFENGYL IOAN. XV. I PENNOD XVI. Y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi. 2 Hwy a'ch bwriant chwi allan o'r synagogau: ac y mae yr awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a'ch lladdo, 3 ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. A'r peth- au hyn a wnant i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad 1. Y pethau hyn a ddywedais (yn fanwl, "yr wyf wedi eu dywed- yd) i chwi, fel na rwystrer chwi (yn llythrennol, fel na'ch mag- ler "). Y syniad yw maglu ar draws rhyw rwystr. Dengys adn. 2 pa rwystrau oedd mewn perygl o "faglu" 'r disgyblion. 2. Hwy a'ch bwriant chwi allan o'r synagogau: ac (cywirach, "ond") y mae yr awr (cywirach, awr "heb y fannod) yn dyfod. Grym yr ond" yw hyn: Fe'ch esgymunir o'r synagogau: peth i'w ddisgwyl, a pheth yr ydych o bosibl yn ei ddisgwyl, yw hynny : ond nid dyna'r gwaethaf y mae peth gwaeth o lawer yn eich aros, -nid esgymundod yn unig, ond merthyrdod hefyd." Y tybia (cywirach, "fel y tybio ") pwy bynnag (yn llythrennol, pob un ") a'ch lladdo. Yr oedd i'r awr oedd yn dyfod ei di- ben yn yr Arfaeth Ddwyfol; a'r diben hwnnw oedd, nid yn unig fod i'r disgyblion selio eu tystiolaeth â'u gwaed, ond hefyd fod i'r erlid- wyr eu rhoddi i farwolaeth gan dybied eu bod trwy hynny yn bodd- hau Duw. Hawdd y gallasai'r profiad o hyn oll "faglu" 'r dis- gyblion pe na buasai'r Gwaredwr, trwy y pethau a ddywedasai wrthynt, wedi eu rhagnerthu. Ei fod yn gwneuthur (yn llythrennol, "yn offrymu") gwasan- aeth i Dduw. Y mae'r gair a gyfieithir "gwasanaeth" yn golygu gwasanaeth o nodwedd grefyddol; ac awgryma'r gair "offrymu" yr un peth. Y syniad yw, y byddai gwaed y merthyron, ym marn yr erlidwyr, yn aberth cymeradwy gan Dduw. Gwiriwyd y geiriau hyn, nid yn unig gan yr Iddewon yn y dyfodol agos, ond hefyd mewn amser llawer diweddarach gan y Pabyddion. 3. A'r pethau hyn a wnant. Gadawer allan y geiriau "i chwi." Oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi. Awgryma'r ymadrodd "nad adnabuant" iddynt gael cyfle i adnabod. Pe na chawsent y cyfle, ni fuasai eu diffyg adnabyddiaeth o Dduw'n bechod ynddynt (gweler xv. 22). O'r ochr arall, pe buasent wedi adnabod y Tad a Christ, y peth pellaf o'u meddwl fuasai eu bod yn boddhau Duw trwy ladd disgyblion Crist.
Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/98
Gwedd