Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Efengyl yn ol Ioan XI-XXI (Esboniad 1931).djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XVI. EFENGYL IOAN. 95 4 na myfi. Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddėl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddy- wedyd i chwi a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r 5 dechreuad, am fy mod gyd â chwi. Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd; ac nid yw neb of honoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti yn myned? 6 Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch 7 a lanwodd eich calon. Ond yr wyf fi yn dywedyd 4. Eithr y pethau hyn (sef y pethau a ddywedasai'r Gwaredwr yn adn. 2 a 3) a ddywedais (yn fanwl, "yr wyf wedi eu dywedyd) i chwi. Fel pan ddėl yr awr. Cywirach, "fel pan fyddo eu hawr hwynt " (sef awr y pethau ") "wedi dyfod." A'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreuad. Wrth "y dech- reuad "golygir, yma fel yn xv. 27, dechreuad gweinidogaeth gy- hoeddus y Gwaredwr. Ond y mae ffurf yr ymadrodd yn y ddau le yn wahanol. Yn xv. 27, y ffurf yw ap' arches' ("o'r dechreu- ad" o ran amser): yma, y ffurf yw ex archês,' yr hyn a all olygu "o'r dechreuad" o ran tarddiad. Er bod yr Iesu, yn ôl tystiolaeth yr Efengylau Cyfolwg, eisoes fwy nag unwaith wedi rhaghysbysu i'r disgyblion y dioddefiadau oedd yn eu haros, nid oedd ei eiriau ar yr achlysuron hynny yn tarddu o'r amgylchiadau yr oedd Ef a'r disgyblion ynddynt ar y pryd. Ond bellach yr oedd yr amgylchiad- au yn gyfryw ag i wneud y rhaghysbysiad yn anocheladwy. Am fy mod gyda chwi. Dyna'r rheswm paham nad oedd ymad- roddion blaenorol y Gwaredwr am ddioddefiadau ei ddisgyblion yn tarddu o'r amgylchiadau. Tra yr oedd Ef gyda hwy, safai Ef rhyngddynt a phob erledigaeth. Cymharer xviii. 8,-"Os Myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhai hyn fyned ymaith." 5. Ac yn awr yr wyf yn myned (yn fanwl, yn myned ymaith "). Ac nid yw neb ohonoci yn gofyn i mi. Gofynasai Petr y cwestiwn yn xiii. 36, a Thomas, yn anuniongyrchol, yn xiv. 5; ond nid oedd y naill na'r llall wedi gwneud y gorau o'r cwestiwn, ac yr oedd y ddau wedi distewi. Ceir y rheswm yn yr adnod nesaf. 6. Eithr am i mi ddywedyd (yn fanwl, "am fy mod wedi dywed- yd ") y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd (yn fanwl, "y mae tristwch wedi llanw") eich calon. Yr oeddynt wedi myned yn rhy drist i feddwl am y fantais a ddeuai iddynt hwy oddi wrth ei ymad- awiad Ef at y Tad. Felly, gan nad oeddynt hwy yn gofyn y cwes- tiwn, à Ef ymlaen i'w ateb heb iddynt ei ofyn. 7. Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd (gwell, "y gwirionedd "y i chwi.