Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXXIX. Y DDRAFFT.

Clywi dabyrddau 'n dadwrdd, a thrwy'r rhain
Y drwm sy'n agor drysau seinia'n nês:
Cei wrando'r adar yn y ffliwtiau main
A'r gwenyn yn y fagbib. Utgyrn pres
Utganant, tincia'r symbal, yna'r lleng,
Colofn saethyddion mewn diwyro drefn
Yn camu wrth fesur heibio o reng i reng;
Pob serchog bwn yn clymu am bob cefn,
A thros bob ysgwydd galed y gwn mud
Yn ffroeni'r helfa o bell. O gam i gam,
Y gwych a'r gwachul o bob lliw a phryd,
Rhagddynt y cerddant. Heb na phle na pham
I'w hapwyntiedig hynt y try pob gwedd,—
I Ffrainc, i'r Aifft, i Ganaan, i hir hedd.