Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XL. MATER MEA.

Pe'm rhoddid innau i orwedd dan y lloer
Yn ddwfn, ddienw, mewn anhysbys rô,
Cofiai fy nghyfaill am ei gyfaill oer
Ar lawer hwyr myfyriol. Yn eu tro
Y telynorion am delynor mud
Diwnient yn dyner ar alarus dant
Wrth gofio 'i nwyd ddiffoddwyd cyn ei phryd,
A'i alaw a ddistawodd ar ei fant.
Ond un yn llewygfeydd gwylfeydd y nos
Ni chaffai ddim hyfrydwch yn ei fri,
Wrth wylo am ddwylo llonydd yn y ffos,
Ar ddwyfron lonydd dros dymhestlog li,
Gan alw drwy'r nos arw ar ei Christ,
Ac ar ei bachgen drwy'r dywarchen drist.