Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XLII. IN MEMORIAM.

Meddyg.


Gwendid mewn gofid gafodd ei ofal
A'i lafur tra gallodd:
Yntau ei hun a hunodd
Yn yr un man a'r un modd.

Milwr.


Rhoes ei nerth a'i brydferthwch tros ei wlad
Tros aelwydydd heddwch:
Gyfoedion oll, gofidiwch!
Lluniaidd lanc sy'n llonydd lwch.

Morwr.


Y Tom gwylaidd, twymgalon, sy'n aros
Yn hir yn yr eigion:
Mor oer yw'r marw yr awron
Dan li 'r dwr, dan heli 'r dôn.

O ryfedd dorf ddi-derfysg y meirwon
A gwmon yn gymysg!
Parlyrau'r perl, erwau'r pysg
Yw bedd disgleirdeb addysg.