Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XLIII. HEDD WYN.

1.
Y bardd trwm dan bridd tramor, y dwylaw
Na ddidolir rhagor:
Y llygaid dwys dan ddwys ddôr,
Y llygaid na all agor!

Wedi ei fyw y mae dy fywyd, dy rawd
Wedi ei rhedeg hefyd:
Daeth awr i fynd i'th weryd,
A daeth i ben deithio byd.

Tyner yw'r lleuad heno tros fawnog
Trawsfynydd yn dringo:
Tithau'n drist a than dy rô
Ger y Ffos ddu'n gorffwyso.

Trawsfynydd! Tros ei feini trafaeliaist
Ar foelydd Eryri:
Troedio wnest ei rhedyn hi,
Hunaist ymhell ohoni.