Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XLIV. JOHN ALFRED.
Mae'r llong yn hwylio i adael tir,
Mae'r rhaffau hir i ffwrdd;
Mae'r capten prydlon ar y tŵr,
A'r biwglwr ar y bwrdd,
Mordwya'r cwch o dòn i dòn
I dir Iwerddon draw,
Gan gyrraedd harbwr mewn tro byr
Heb frwydyr ac heb fraw.
A churo drwm a chario dryll
Mewn gwersyll yno geir;
A chyda'r gwersi bob yn fis
O ris i ris yr eir.
Pan ddaeth ei dymor byr i ben
Y bachgen wyneb iach
A gaed i gerdded ger eu bron
Yn burion filwr bach.