Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Mordwya'r cwch o dôn i dòn
Hyd lannau ffrwythlon Ffrainc,
A chlywir nodau lleisiau cryg
Yn cynnyg llawer cainc.
Mae'r maes yn awr yn fawr ei ffrwst
Gan drwst y gynnau draw,
Mae'r bachgen pur na wybu gur
Mewn brwydyr ac mewn braw.
Ond wele'r llong yn ol cyn hir,
A'r rhaffau hir i ffwrdd,
'Roedd capten llawen ar y tŵr,
A biwglwr ar y bwrdd.—
Pa le mae'r bachgen ysgafn droed,
Heb och erioed na chraith
Fu'n mynd a dyfod fel yr hydd
Hyd ochrau'r mynydd maith?
Mae'r bachgen heini, serchog wedd,
Yn gorwedd o dan gŵys,
A'i ddwy droed lonydd a'i ddwy law
Yn ddistaw ac yn ddwys.