Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dymunaf ddiolch i olygyddion neu berchenogion y cyhoeddiadau a ganlyn—Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1910, Y Beirniad, Y Geninen, Y drysorfa, The Welsh Outlook, Y Genedl, Y Seren, Y Goleuad, yn arbennig i bennaeth gwlatgar y Western Mail—am ganiatâd i adargraffu rhai o'r cerddi; ac i'r Cyhoeddwyr am bob hwylustod a hynawsedd posibl.

Y mae fy nyled yn fawr hefyd i hyfforddiant cynnar Hywel Cefni a'r diweddar Anant; i ysbrydiaeth darlithiau Syr John Morris-Jones; i ysbrydiaeth cyfeillach agos gwŷr fel W. J. Gruffydd, W. Hughes Jones, Silyn, Ifor Williams, Llew. G. Williams, a J. J. Williams; yn olaf, ond yn bennaf, i esiampl fy meistr llenyddol, Thomas Gwynn Jones.

Am anghysonderau Cymraeg y llyfr, i'm mympwy fy hun yr wyf i ddioleh. Dymunaf rybuddio'r ymofynnydd pryderus nad ydyw fy orgraff ddim uwchlaw amheuaeth. Mewn anwybodaeth yr ysgrifenaswn cànfum, adnàbum, gwỳbum, etc., yn lle canfûm, adnabûm, gwybûm, etc. Ond o fwriad yr