Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XLVII. DYSGEDIGION.

1.


O'u meddiant ac o'u moddion, ac o'u dysg
Y'u diosgwyd weithion:
Y ddaear brudd ar eu bron
Gloes eiriau 'r hen Glasuron.

O'u di-allu dywyllwch, ni welant
Na haul na hawddgarwch;
Na'r ser yn eu tynerwch,
Na llewyrch lloer uwch eu llwch.

Na rhywle y môr helaeth, na'i glywed
Ar greigleoedd diffaeth;
Na rhodio tro hyd y traeth,
Na'u llanw o hedd llenyddiaeth.

2.


I Borth y Gest a'i brith gôr o wylain
Ni ddychwela 'i brodor;
Ond aros mae dros y môr
Tragywydd-lonydd lenor.