Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Obry o ganol bro gynnes y Barri
Fe'i bwriwyd i fynwes
Graean y pridd. Utgyrn pres
Ni thyr hûn athro Hanes.
Druaned ei rieni ar y Garn
Oer ei gwedd o'i golli!
Cydymaith mewn coed imi,
Mwyn ei lais ger Menai li.
3
'Chwithau, nac wylwch weithion eu rhoddi
I golli mewn gwyllon:
Eu gorchest trwy wlad estron
Rwygodd Ddraig y ddaear hon.
Yn oriau 'r hwyr a'u hir hedd, Hiraeth dwys
Wrth ei dân a eistedd;
Oddifewn i'w leddf annedd
Byddant fyw heb iddynt fedd.