Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Mi adwaen rywun dyner-lais
A huda'r adar ar ei hôl;
Ac oen ni sugna, os hon a'i cais,
Na âd ei ddala hyd y ddôl;
Ni thycia 'i thyner arfer hi,
Ei theg lais dwys ni'th oglais di.
Ond pan fo'r chwa yn lleddfu'th ofn
Heb unswn estron ar ei min,
A phan na bo'n y goedwig ddofn
Ond gosteg hyd ei phellaf ffin,
Tithau, bryd hyn, agori big
Dy ddiniweidrwydd yn y wig.