Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Haf a Cherddi Eraill.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI. ADREF.

BU amser pan ddewisais rodio ar led,—
Gan roddi heibio 'm genedigaeth fraint,—
Trwy ddiflanedig ddydd marchogion Cred,
A thrwy'r distawrwydd lle bu'r twrnamaint.
Cefnais yn ynfyd ar fy oes fy hun,
Ac megis dewin hen yn bwrw ei hud
Mi atgyfodais lawer eurwallt fun
O'i thrwmgwsg tawel ger ei marchog mud.
Ond hiraeth doeth y galon adre a'm dug
Oddiar ddisperod bererindod serch,
I brofi o'r gwirionedd sy'n y grug,
Ac erwau crintach yr ychydig gerch.
Digymar yw fy mro trwy'r cread crwn,
Ac ni bu dwthwn fel y dwthwn hwn.